Bara brith Negroni - Halen Môn

Bara brith Negroni

by | Ebr 4, 2023

INGREDIENTS

  • 300g ffrwythau sych cymysg (e.e. syltanas, rhesins, cyrens)
  • 225ml te oolong poeth
  • 10ml Campari
  • 25ml Jin Môr – Jin Halen Môr
  • 100ml Martini Rosso neu fermwth melys rhad
  • 100g siwgr muscovado brown tywyll
  • 250g blawd codi
  • 1 llwy de sbeis cymysg
  • 1 ŵy, wedi’i guro
  • menyn, ar gyfer seimio

Dyma glasur newydd gan Jack Adair Bevan, cyd-sylfaenydd The Ethicurean, bwyty yng Ngwlad yr Haf sy’n torri cwys newydd lle mae’r tîm yn tyfu, yn fforio, yn eplesu ac yn cochi’r rhan fwyaf o’u bwydlen. Mae’n wneuthurwr coctels arobryn ac efallai mai dyma’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’r fersiwn chwareus hon o’r clasur Cymreig, Bara Brith.

“Pan oeddwn yn fachgen bach, bûm yn byw am flwyddyn mewn bwthyn bach gyda mam ger pentref bach glan môr o’r enw Dale, yn Sir Benfro. Bu gweddill ein teulu’n byw yn Aberdaugleddau a gallaf gofio y byddai’r cenedlaethau hŷn yn defnyddio unrhyw esgus i bobi Bara Brith. Yn aml byddent yn ei adael wedi ei lapio mewn lliain cotwm y tu allan i’r drws ffrynt os nad oedd neb gartref. Rwy’n hoffi ychwanegu Martini Rosso, jin a Campari a chymryd ychydig o’r te allan i roi ychydig mwy o ddyfnder i’r blas cyffredinol. Gweinwch gyda thaeniad trwchus o fenyn hallt.”

Rhowch y ffrwythau sych mewn powlen ac arllwyswch y te poeth, Campari, jin a fermwth drostynt. Cymysgwch y siwgr a’i droi’n dda nes ei fod wedi toddi. Gadewch y cymysgedd i fwydo am o leiaf 6 awr neu dros nos.

 Y diwrnod wedyn, cynheswch y popty i 180°C (160°C ffan/350°F/Nwy 4) ac irwch dun torth 900g gyda menyn.

Rhidyllwch y blawd a’r sbeis cymysg i mewn i’r ffrwythau gwlyb gyda’r holl hylif rhyfeddol a throwch yr ŵy wedi’i guro i mewn i’r cymysgedd. Cymysgwch yn drwyadl a thywalltwch y cymysgedd i’r tun wedi’i iro. Pobwch am ryw 55 munud, hyd nes bod y gacen wedi codi ac wedi’i choginio trwyddi. Bydd cyllell yn dod allan yn lân ar ôl ei fewnosod pan fydd y bara brith yn barod. Gadewch iddo oeri ar resel wifrau. Rydych chi i fod i adael y bara i aeddfedu am ychydig ddiwrnodau, ond dim siawns!

24
YOUR BASKET
Pure Sea Salt with Roasted Garlic 100g
£24.60
Premium stainless steel mill
Premium stainless steel mill
Price: £29.95
- +
£29.95
Jin Môr 5cl
Jin Môr 5cl
Price: £6.15
- +
£6.15
A4 St Cwyfan's Print
A4 St Cwyfan's Print
Price: £12.00
- +
£24.00
Halen Môn Denim Apron
Halen Môn Denim Apron
Price: £59.00
- +
£59.00
Pure Sea Salt 1kg
Pure Sea Salt 1kg
Price: £31.00
- +
£31.00
Little Ceramic Jar with Pure Sea Salt (15g)
Little Ceramic Jar with Pure Sea Salt (15g) Qty: 1
Pure Sea Salt 250g
Pure Sea Salt 250g
Price: £8.95
- +
£8.95
Classic Enamel Pinch Pot (blue/ white)
£6.50
Smoky Honey Mustard 200g
Smoky Honey Mustard 200g
Price: £6.60
- +
£6.60
Campfire Salted Caramel 200g
Campfire Salted Caramel 200g
Price: £7.95
- +
£15.90
Black Garlic Enamel Pin
Black Garlic Enamel Pin
Price: £4.95
- +
£9.90
Pure Sea Salt in a Finer Flake 100g
£5.60
'Pinch Me' Tin
'Pinch Me' Tin
Price: £2.00
- +
£2.00
Products you might like
Calculate Shipping
Shipping options will be updated during checkout.