EIN STORI

CARIAD AT YR YNYS

 

Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Bangor, lle’r oedden ni wedi syrthio mewn cariad efo’n gilydd ac efo Ynys Môn, mi wnaethon ni ddechrau chwilio am ffyrdd a fyddai’n caniatáu inni barhau i fyw a gweithio yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol hon.

A ninnau wedi ychwanegu at y grantiau pitw a gawson ni fel myfyrwyr trwy dyfu wystrys, mi wnaeth y fenter fach hon ddatblygu’n fusnes cyfanwerthu pysgod a gêm a fu ar waith am 12 mlynedd. Mi wnaethon ni sylweddoli bod pobl yn dotio cymaint at y pysgod yn y môr ag yr oedden nhw at y pysgod ar eu plât, felly yn 1983 dyma ni’n sefydlu’r Sŵ Môr, a datblygodd i fod yn acwariwm mwyaf Cymru.

Pan ddechreuodd natur dymhorol y busnesau hyn droi’n broblem ddifrifol, dyma ni’n eistedd i lawr i drafod beth allen ni ei wneud i greu arian yn ystod misoedd y gaeaf. Ar ôl meddwl am syniadau gwych (a diystyru rhai hefyd) – syniadau gwych fel gwerthu cestyll tywod solet a photeli o dywod lliw – yn y diwedd dyma ni’n taro ar y syniad o greu halen môr.

ARFORDIR Y FRENHINES

Roedden ni eisoes yn talu i’r Frenhines am y dŵr môr, oherwydd hi sy’n berchen ar yr arfordir ac mae hi’n codi rhent arnon ni am ein piblinell.

Roedden ni’n gwybod hefyd fod y môr o amgylch yr ynys yn eithriadol o lân, oherwydd roedd morfeirch hynod ffyslyd y Sŵ Môr yn berffaith fodlon i fridio ynddo. Mae morfeirch yn fisi iawn ynglŷn â’r dŵr maen nhw’n byw ac yn bridio ynddo, felly roedd gennym ni deimlad da ym mêr ein hesgyrn fod gan y dyfroedd hallt hyn y potensial i gynhyrchu halen môr gorau’r byd.

AUR CYMRU

Yn 1997, mi wnaethon ni adael sosban o ddŵr môr i ferwi ar yr Aga yng nghegin ein cartref, ac wrth i’r crisialau ddechrau ffurfio roedden ni’n gwybod ein bod wedi darganfod aur. Mi wnaethon ni ddechrau cyflenwi Halen Môn i Swains, ein siop gig leol ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.

Heddiw, caiff ein halen môr ei fwynhau trwy’r byd gan ben-cogyddion, bwydgarwyr a hyd yn oed Barack Obama. Cafodd ei weini yng Ngemau Olympaidd 2012, a hefyd mewn uwchgynadleddau gwleidyddol a phriodasau brenhinol, ac mae’n gynhwysyn hollbwysig yn siocled Green & Blacks a chreision Pipers. 

Ynghyd â mwy na 100 o siopau bwydydd gorau’r DU, rydym hefyd yn cyflenwi Marks and Spencer, Waitrose a Harvey Nichols. Gallwch ddod o hyd i’n halen môr mewn mwy na 22 o wledydd ar draws y byd, yn ogystal ag ar fyrddau rhai o brif fwytai’r byd, fel The Fat Duck.

Yn bwysicach na dim, mae’n dal i gael ei werthu yn Swains ym Mhorthaethwy.

0
Your basket