O’R LLANW I’R LLWY
HANES
Câi halen môr ei wneud ar Ynys Môn hyd ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Yr adeg honno, rhoddwyd y gorau i’w wneud ar ôl i’r gwneuthurwyr gael eu dirwyo am ychwanegu halen craig o Swydd Gaer at yr halen môr.
Heddiw, rydym wedi adfer y grefft hynafol hon trwy gyfuno dull traddodiadol o gynaeafu’r halen â llaw efo technoleg newydd sbon danlli i gynhyrchu fflochiau gwyn crensiog Halen Môn. Ond yn wahanol i’n rhagflaenwyr, nid ydym yn ychwanegu unrhyw beth arall.
Y BROSES
- Gan ddefnyddio heli pur oddi ar arfordir Ynys Môn a hidlwyd efo siarcol, mae’r cyfan yn llifo trwy ddau hidlydd naturiol yn y môr, sef gwely o gregyn gleision a chefnen dywod, cyn cyrraedd ein Tŷ Halen.
- Ar ôl iddo gael ei hidlo’n naturiol, bydd y dŵr hallt yn cael ei gynhesu’n ysgafn mewn gwactod er mwyn iddo ferwi ar dymheredd isel.
- Yn raddol, mae’r dŵr yn rhyddhau stêm ac yn troi’n ddŵr halen hallt iawn.
- Pan fydd crynhoad yr halen yn y dŵr yn ddigon cryf, byddwn yn ei roi mewn tanciau crisialu bas ac yn ei adael yno er mwyn i grisialau halen môr ffurfio.
- Ar ôl i’r crisialau ffurfio, byddwn yn cynaeafu’r halen môr â llaw. Yn olaf, byddwn yn golchi’r fflochiau mewn dŵr hallt hyd nes y byddant yn sgleinio.
- Er bod y rhan fwyaf o’n halen môr yn cael ei gadw’n bur, bydd rhywfaint ohono’n cael ei gymysgu ag ystod o gynhwysion gwych i gynhyrchu ein cyfres o halenau mwg mewn odyn ar y safle neu i gynhyrchu rhai blasau unigryw.
DILYSRWYDD
Mae ein proses yn unigryw a chaiff ei chydnabod yn gyfreithiol felly dan gyfraith yr UE.
Rydym yn falch o fod y trigeinfed Enw Bwyd Gwarchodedig yn y DU, mae gennym ardystiad Consortiwm Manwerthu Prydain (BRC), ac rydym ymhlith yr ychydig gynhyrchwyr halen môr yn y wlad sydd â Statws Cynnyrch Ardystiedig gan Gymdeithas y Pridd.
Mae pob pecyn o halen môr wedi’i farcio efo’r dyddiad cynaeafu a llythrennau blaen y gwneuthurwr halen, felly byddwch yn gwybod yn syth fod eich halen môr wedi’i bacio gan berson go iawn yn hytrach na chan fraich fetel rhyw robot mewn ffatri.
Gallwch baru’r unigolyn a baciodd eich pecyn halen â’i lythrennau blaen trwy glicio yma.