TEITHIAU
DWYWAITH Y DYDD
Ar agor 7 diwrnod
Croesewir archebion grŵp, cysylltwch â ni am opsiynau pwrpasol. Mae ein safle, siop a theithiau yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Yn anffodus nid yw’n bosib dod a cŵn ar y daith gan ein bod yn safle cynhyrchu bwyd.
BETH I’W DDISGWYL
Mae ein Canolfan Ymwelwyr a’n Tŷ Halen gwobrwyol yn adeilad unigryw ar lannau’r Fenai mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, y drws nesaf i Sŵ Môr Môn ym Mrynsiencyn.
Rydym yn falch o fod yn un o fusnesau bwyd mwyaf arloesol Cymru, ac rydym yn cynnig teithiau unigryw ‘y tu ôl i’r llenni’ ar gyfer pwy bynnag sydd â diddordeb mewn dysgu am y lle sydd gan halen yn ein hanes a’n diwylliant a’r hyn sy’n gwneud PDO Halen Môn yn un o sesnadau gorau’r byd.
Byddwch yn cael eich tywys gan un o’n harweinyddion hyfforddedig (darllenwch fwy amdanyn nhw yma) a bydd y daith yn para oddeutu 50 munud. Ar y diwedd, cewch flasu halen efo cymorth tiwtor. Darllenwch ein tudalen Tripadvisor i weld yr adolygiadau diweddaraf.
Yn ogystal â bod yn rhywle lle’r ydym yn gwneud ein halen môr, mae ein Tŷ Halen yn gartref i siop anrhegion gyfoes a llawn steil.
PRISIAU
Oedolion £9.50
Pensiynwyr a thrigolion yr ynys , Myfyrwyr £8.50
Plant 8 oed a hŷn £7.50
Plant dan 8 oed am ddim (er bod croeso i blant ymuno â’n teithiau, cânt eu hanelu’n bennaf at oedolion)
Edrychwn ymlaen yn fawr at eich croesawu.