CAFFI’R
TIDE/ LLANW
AMSEROEDD AGOR AR HYN O BRYD
Diolch o galon i bawb sydd wedi cefnogi Tide/Llanw yn y pedair blynedd ddiwethaf, drwy ein cyflenwi, dod am ginio neu i glwb swper neu alw heibio am @coaltowncoffee.
Rydyn ni eisiau i bopeth rydyn ni’n ei rannu, ei gynnal a’i gynhyrchu fel busnes i fod ein cynnig gorau ac mae wedi dod yn amlwg i ni fod angen ailymgynnull cyn y gallwn ei gynnig o ran arlwyo.
Fel llawer o’r DU, ers gadael yr UE rydym wedi cael problemau staffio enfawr ym maes lletygarwch, a chan gyfuno hyn â heriau o Covid, costau cynyddol a hinsawdd ansicr, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i gangen caffi/digwyddiadau’r busnes gael blwyddyn i ffwrdd, fel y gallwn bwyso a mesur a phenderfynu ar gynllun wrth symud ymlaen.
Nid ar chwarae bach yr ydym wedi gwneud y penderfyniad hwn, a byddwn yn ailedrych ar y penderfyniad ym mis Hydref 2023 i gynllunio ar gyfer 2024 a thu hwnt.
Yn y cyfamser, bydd ein tîm yn dal i fod yma gyda’n canolfan ymwelwyr hynod, siop nwyddau cartref a digonedd o syniadau newydd eleni. Rydym yn addo parhau i fod yn arloesol ac i barhau i wneud cynnyrch blasus. Daliwch ati i gefnogi eich caffis a’ch bwytai lleol, maen nhw i gyd ein hangen ni!
ETHOS
Mae Tŷ Halen, Halen Môn yn sefyll mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, gyda golygfa heb ei thebyg o’r Fenai ac Eryri.
Mae ein caffi awyr agored wir yn dathlu’r olygfa hon, ac mae’n lle perffaith i alw heibio am goffi cyn neu ar ôl cerdded ar Draeth Niwbwrch.