CWESTIYNAU CYFFREDIN

C. Beth fyddai’n digwydd pe na baem yn bwyta halen o gwbl?

A. Mae’r adweithiau cemegol yn ein cyrff angen sodiwm a chlorid. Mae halen yn cynnwys sodiwm, ynghyd ag un elfen arall.

Heb halen, byddai ein cyrff yn rhoi’r gorau i weithio. Byddai ein cyhyrau’n rhoi’r gorau i weithio, ni fyddai ein nerfau’n cludo negeseuon ac ni fyddai ein bwyd yn cael ei dreulio.

Bob diwrnod, mae ein cyrff yn colli halen trwy chwys, wrin a dagrau, felly mae angen inni roi rhywfaint o halen yn ôl yn ein cyrff er mwyn iddynt barhau i weithio’n iawn. Gan fod halen yn rhan hanfodol o ddeiet iach a chytbwys, mae’n bwysig inni gael digon ohono.

C. Pam mae halen môr yn well ichi na mathau eraill o halen?

Ateb:
I ddechrau, mae cyfansoddiad yr halen sy’n rhan o feinwe ein cyrff yn debyg iawn i’r hyn a geir mewn dŵr môr. Mae halen môr yn cadw’r elfennau hybrin naturiol pwysig sydd yn aml yn cael eu tynnu allan wrth brosesu halenau eraill a roddir ar y bwrdd bwyd.

A gan fod halen môr yn naturiol yn blasu’n gryfach, rydych yn dueddol o ddefnyddio llai ohono wrth goginio (ond yn cadw’r un blas cyfoethog).

C. Beth yw deiet sy’n isel mewn halen a sut allaf leihau faint o halen rydw i’n ei fwyta?

Ateb:
Mae deiet sy’n isel mewn halen yn cael ei bresgripsiynu ar gyfer pobl sy’n dioddef o bwysedd gwaed uchel.

Gan fod 75% o’r halen a fwytawn yn y DU eisoes yn y bwyd a brynwn, gallwch helpu i leihau faint o halen a fwytewch drwy brynu llai o eitemau a brosesir, fel bara, grawnfwydydd, cig a physgod wedi’u cadw, piclau, sawsiau, cnau wedi’u halltu, llysiau mewn tin a phrydau parod.

Drwy ddarllen beth sydd ar gefn y pacedi ynglŷn â’r cynnwys halen, gallwch sicrhau nad ydych yn bwyta mwy na’r lwfans dyddiol a argymhellir o halen. I oedolion, 6g (2.4g o sodiwm) yw’r uchafswm.

C. Beth am ddewisiadau amgen sy’n isel mewn sodiwm?
Ateb:
Y sodiwm yn yr halen sy’n medru achosi pwysedd gwaed uchel. Felly, er bod dewisiadau eraill gyda llai o sodiwm yn cynnwys llai hefyd na halen arferol, nid ydynt yn rhydd rhag sodiwm yn gyfan gwbl. Mae hyn yn golygu y byddwch yn parhau i ychwanegu sodiwm i’ch bwyd.

Gan fod blas cryfach yn perthyn i halen môr a’i fod yn gwbl naturiol, efallai y gwelwch ei bod hi’n haws i reoli eich defnydd o halen drwy fwyta’n synhwyrol a defnyddio ychydig yn unig o halen môr naturiol, yn hytrach na’r mathau a addasir yn gemegol.

C. Pam mae Halen Môn wedi’i gymeradwyo gan Gymdeithas y Pridd?
Ateb:
Mae ein proses o gynhyrchu halen môr yn cael ei archwilio gan Y Gymdeithas Bridd, sy’n gwirio nad ydym yn ychwanegu unrhyw beth i’r halen nac yn defnyddio unrhyw gemegolion wrth gynhyrchu a golchi. Mae lliw gwyn llachar ein fflochennau yn gwbl naturiol, nid yn sgil unrhyw gannydd ond oherwydd gwaith rinsio gofalus ein tîm o gynaeafwyr.

Os bydd angen pecyn arnoch o fewn 24 awr yna ffoniwch ni ar 01248 430871 cyn 11.30am. Fe wnawn ein gorau glas i’ch helpu, ond rydym yn dîm bach ac nid yw hyn bob amser yn bosibl.

0
Your basket