TÎM HALEN MÔN
Rydym yn dîm bach ond cryf o ugain o bobl, Jack Russell o’r enw Bella a labradoodle o’r enw Jolene y gallwch ddod o hyd iddyn nhw fel arfer yn ceisio dwyn brechdanau rhywun.
Rydym wedi bod yn fusnes teuluol o’r cychwyn cyntaf, ac mae tri phlentyn Alison a David i gyd yn gweithio i Halen Môn mewn gwahanol ffyrdd.
Credwn ei bod hi’n bwysig ac yn gysur gwybod bod eich bwyd wedi cael ei wneud gan berson go iawn. Dyna pam rydym yn nodi llythrennau blaen pob paciwr ar bob paced a phob tiwb o halen a gynhyrchwn.
Gallwch baru’r llythrennau blaen a welwch ar eich pecyn halen â’r lluniau ar y dudalen hon.
Gareth
Arweinydd y Tîm Cynhyrchu (GJ)
Mae Gareth wedi mopio â Manchester United, y Manic Street Preachers a’i deulu. Nid o angenrheidrwydd yn y drefn honno.
Darren
Cydlynydd Gwerthu
Cafodd Darren ei eni a’i fagu ym Methesda yng ngogledd Cymru, ac mae wrth ei fodd â’r mynyddoedd ac yn mwynhau pysgota am frithyll, y Super Furry Animals a phopeth yn ymwneud â Sombïaid.
Jolene
Ci’r Cwmni
Mae gan Jolene fwy o egni na phawb arall yn y swyddfa i gyd efo’i gilydd, a bob amser cinio mae’n mynd i nofio yn y môr, boed law neu hindda.
Jim
Cynaeafwr a Phaciwr Halen (JP)
Pe nai bai wedi dewis bod yn gynaeafwr halen, mi allai fod wedi bod yn chwaraewr dartiau proffesiynol. Hefyd, mae Jim yn hoffi beicio a golchi ei Astra bob cyfle a gaiff.
Ronan
Rheolwr Cynhyrchu
Mae gan Ronan gefndir diddorol ac amrywiol yn y diwydiannau cig ac archfarchnadoedd, yn ogystal â gorffennol cudd fel dawnsiwr Gwyddelig cystadleuol.
Hamish, Jake a Jess
Yr Ail Genhedlaeth
Mae plant Alison a David i gyd yn gweithio yn y busnes mewn amrywiaeth eang o ffyrdd – o adeiladu a chynnal y wefan hon i ffilmio fideo’r teithiau tywys a meddwl am gynnyrch newydd. Un peth sydd bob amser yn dod â’r tri at ei gilydd yw eu cariad at fwyd da eu mam.
Alison
Partner
Ers cychwyn y cwmni yn 1997 mae Alison wedi creu sawl blas bendigedig o Halen Môn ac wedi teithio i bellafoedd y byd i’w werthu, yn cynnwys Hong Kong, Dubai ac Efrog Newydd.
Nicki
Cynorthwywr Personol ac Uwch Weinyddwr
Nicky yw canolbwynt y swyddfa. Mae ganddi dros 80 lliw o bolish ewinedd, mae’n mwynhau mynd i’r theatr yn Llundain ac mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i phrynhawniau’n breuddwydio am Matt Le Blanc ac esgidiau.
Keith
Cynaeafwr a Phaciwr Halen (KOG)
Yn bencampwr y ‘galaxy swirl’, mae Keith yn dipyn o arbenigwr fel cynaeafwr ein halen môr, mae’n medru golchi’r halen ynghynt nag unrhyw un arall yn y byd halen, ac mae’n beicio i’w waith bob diwrnod, boed law neu hindda.
David
Partner
Anaml y gwelwch chi David yn sefyll yn llonydd – mae byth a beunydd yn dylunio tŷ halen newydd, yn cyflwyno ceisiadau cynllunio neu’n trefnu paneli solar newydd. Dim ond bygythion gan Alison sy’n llwyddo i’w gadw yn y swyddfa.
Rob
Rheolwr y Ganolfan Ymwelwyr a’r We-siop.
Ar ei ddiwrnodau rhydd gallwch ddod o hyd i Rob yn pysgota yn y môr, yn coginio gwledd yn y gegin neu’n trin hen injans cychod yn ei garej.
Tom
Arweinydd y Tîm Peiriannau (TJ)
Daeth Tom yn ôl adref i Ynys Môn ar ôl treulio amser yn Iwerddon a gall droi ei law at y rhan fwyaf o bethau yn y byd cynhyrchu halen. Mae’n mwynhau chwarae golff, pysgota môr a theithio, a’i fwriad yw ceisio cyfuno’r tri.
Bella
Ci’r Cwmni
Mae Bella yn mwynhau rhedeg ar ôl pêl rygbi fach felen, pryfocio’r hwyaid a bwyta bisgedi Nicki a Ronan.