GWAITH MWG AR CONTRACT

DŴR MWG

Mi wnaethon ni adeiladu ein tŷ mwg yn wreiddiol i ychwanegu blas at ein halen môr byd-enwog, ond buan iawn y gwnaethon ni sylweddoli y byddai modd inni arbrofi llawer mwy. Mi wnaeth pethau ddatblygu pan ofynnodd Heston Blumenthal inni geisio creu dŵr â blas mwg (ie, dŵr!) er mwyn ychwanegu blas at un o’i brydau bwyd yn ei fwyty, felly mi wnaethon ni gytuno i roi cynnig arni. Ar ôl rhoi cynnig arni gannoedd o weithiau, rydym bellach wedi mireinio a pherffeithio cynnyrch sy’n gwbl naturiol ac sy’n ychwanegu dyfnder sawrus at fwydydd a diodydd di-rif yn eithriadol o gyflym.

CYNHWYSION ERAILL


Dyma gynhwysion eraill rydym yn creu blas mwg ar eu cyfer ar hyn o bryd:

– caws
– menyn
– siwgr 

Mae gennym ardystiad BRC, felly rydym yn cadw at y safonau ansawdd llymaf.

Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.

MAE EIN DŴR MWG Â DERW YN HOLLOL NATURIOL A CHAIFF EI DDEFNYDDIO GAN BAWB O WNEUTHURWYR PRYDAU PAROD I FWYTAI Â SÊR MICHELIN

0
Your basket