SIOP AR Y SAFLE

AMSEROEDD AGOR

Ar agor 7 diwrnod, 10.30-4

 

 

 

YR HYN A WERTHWN

Yn ein Tŷ Halen y caiff ein halen môr gwobrwyol ei wneud, a cheir yma hefyd siop anrhegion gyfoes a llawn steil. Rydym yn gwerthu ein hystod lawn o nwyddau halen môr, yn ogystal ag amrywiaeth cyfnewidiol o eitemau cegin, trysorau vintage, bwydydd lleol, eitemau cartref masnach deg ac anrhegion glan môr.

Os yw siopa yn brofiad braidd yn flinedig ichi, gallwch orffwys ar ein soffa. Estynnwn groeso cynnes i’n holl ymwelwyr, pa un a ydynt yn bwriadu mynd ar un o’n teithiau Tŷ Halen, ai peidio.

BETH I’W DDISGWYL

Rydym wedi gwneud ein gorau glas i adlewyrchu’r hyn sydd o’n cwmpas, felly mae ein gosodyn golau wedi’i wneud o ddarn enfawr o froc môr lleol, a chaiff y siop ei gwresogi gan stôf sy’n llosgi coed tân lleol.

0
Your basket