Corbwmpenni wedi’u golosgi, feta chwip a siytni coriander - Halen Môn

Corbwmpenni wedi’u golosgi, feta chwip a siytni coriander

by | Meh 15, 2021

INGREDIENTS

 

Gweini 4 fel pryd ochr neu fel rhan o farbeciw

6 corbwmpen fawr, wedi’u sleisio ar eu hyd yn stribedi trwchus
150ml o olew olewydd
Halen Môr Pur
Pupur du

Ar gyfer y feta chwip
200g o feta
200g iogwrt Groegaidd trwchus
50ml o olew olewydd
1 lemwn, y croen a’r sudd

Ar gyfer y siytni coriander
40g o goriander, y dail a’r coesynnau
1 tsili gwyrdd, wedi’i sleisio’n fân, heb yr hadau
1 llwy fwrdd o ddŵr derw mwg Halen Môn
1 llwy de o Halen Môr Pur
1 leim, y croen a’r sudd
Olew olewydd
Perlysiau meddal wedi’u torri, i weini

Un o’n hoff bethau i goginio ar y barbeciw yw stribedi o gorbwmpenni – maent yn hyfryd gyda mozzarella ffres ac olew olewydd, ond yma, rydym wedi gwneud ychydig mwy o ymdrech ac wedi’u gweini ar wely o feta wedi’i chwipio, gydag ychydig o siytni mwg hefyd.

Trochwch y corbwmpenni mewn 100ml o’r olew olewydd gyda digon o halen a phupur, a rhowch i’r ochr.

I wneud y siytni coriander, ychwanegwch yr holl gynhwysion i mewn i brosesydd bwyd a’u blitsio nes bod y cymysgedd yn llyfn, gan ychwanegu rhagor o olew olewydd os oes angen.

Pan fydd y barbeciw neu’r badell radell yn boeth, coginiwch ar dymheredd uchel am 2 munud, cyn troi’r corbwmpenni drosodd. Bydd angen ichi eu coginio ychydig ar y tro. Mae gefeiliau coginio yn ddefnyddiol, er mwyn osgoi llosgi eich bysedd. Dylai’r corbwmpenni olosgi a duo ychydig, ond dal eu siâp.

Cymysgwch y feta, iogwrt ac olew olewydd gyda fforc nes bod y cymysgedd yn llyfn. Yna, ychwanegwch y sudd a chroen lemwn, a chymysgwch eto. Gorchuddiwch waelod dysgl weini fawr gyda’r cymysgedd feta.

Trefnwch y corbwmpenni wedi’u golosgi ar ben y feta chwip, yna tywalltwch y siytni coriander, a gorffennwch gydag ychydig o olew olewydd a pherlysiau meddal wedi’u torri.

.

6
YOUR BASKET
A4 Llanddwyn Print
A4 Llanddwyn Print
Price: £12.00
- +
£12.00
Wild woman sticker (jolly sticker range)
£2.50
Wooden postcard (kiss)
Wooden postcard (kiss)
Price: £5.95
- +
£5.95
Classic Enamel Pinch Pot (blue/ white)
£6.50
Handmade Twist Shell Hoop Earrings
£39.00
Products you might like
Calculate Shipping
Shipping options will be updated during checkout.