Rarebit Cwrw Cymreig gyda blas mwg - Halen Môn

Wedi’i wneud gyda chwrw Cymreig a’n Dŵr Mwg ni ein hunain, mae’r caws ar dost hynod yma yn cyrraedd lefel uwch.

Digon i 4
1 llwy de o fwstard dijon
50ml cwrw Cymreig
25g menyn heb halen
175g Cheddar Gymreig siarp, wedi’i gratio – da ni’n hoffi caws Hafod
melyn 2 wy
Llond llaw o ddarnau corwinwyn
1 llwy fwrdd o Dŵr Mwg
4 sleisen drwchus o surdoes

Cymysgwch y mwstard a’r cwrw mewn sosban fach dros wres isel, yna trowch y menyn i doddi. Ychwanegwch y cheddar a’i droi nes bod y caws wedi’i doddi. Peidiwch â gadael iddo ferwi. Tynnwch y sosban oddi ar y gwres a ychwanegwch yr wyau, corwinwyn a dŵr mwg.

Tostiwch y bara ar y ddwy ochr, yna trowch eich gril hyd at y gwres uchaf. Trefnwch y tost yn daclus ar hambwrdd a rhannwch y gymysgedd rhwng y pedair sleisen (peidiwch â phoeni amdano yn lledu dros ymylon y bara). Rhowch o dan y gril nes ei fod yn euraidd ac yn bwblio.

Bwytewch yn syth gyda salad cymysg.

Rysáit: Anna Shepherd
Llun: Jess Lea-Wilson

8
YOUR BASKET
Signature Sea Salted Fudge 150g
£5.25
Pure Sea Salt in a Finer Flake 100g
£5.60
A4 Llanddwyn Print
A4 Llanddwyn Print
Price: £12.00
- +
£12.00
Pure Sea Salt with Chilli + Garlic 100g
£16.40
A4 St Cwyfan's Print
A4 St Cwyfan's Print
Price: £12.00
- +
£12.00
Specially Selected Whole Peppercorns 100g
£16.50
Products you might like
Calculate Shipping
Shipping options will be updated during checkout.