Riwbob wedi ei stiwio gyda Mascarpone + Granola Halen Môr Fanila - Halen Môn

Un o’r pwdinau haf sy’n edrych (ac yn blasu) fel petaech wedi gwneud llawer mwy nag ydych mewn gwirionedd. Mae’r granola gyda halen fanila yn ychwanegu gwead â blas chwaneg riwbob Prydeinig blasus.

DIGON I 4 – 6 Y GRANOLA:
75g menyn heb halen
60ml sudd masarn
150g ceirch
25g hadau sesame
50g almonau
¼ llwy de Halen Môn gyda Fanila

Y RIWBOB:
6 ffon (tua 500g) riwbob
1 oren, croen a sudd
2 dail llawryf
100-150g siwgr caster euraidd

Y MARSCAPONE
Pecyn 200g o mascarpone
75g siwgr caster euraidd

Cynheswch y popty i 180C. Gwnewch y granola yn gyntaf drwy doddi’r menyn a’r masarn gyda’i gilydd mewn sosban. Pan yn hylif, lluchiwch drwy’r ceirch mewn hambwrdd rhostio a rhowch yn y ffwrn am 15 munud. Tynnwch y ceirch o’r ffwrn ac ychwanegwch yr hadau sesame, cnau almon a Halen Môn Fanila. Rhowch yn ôl yn y ffwrn am 10 munud nes bod y cnau a’r hadau yn euraidd. Nesaf, torrwch y riwbob yn ddarnau 2cm a’u rhoi mewn sosban gyda’r oren, llawryf a siwgr. Gadewch y caead i ffwrdd a’i mudferwi dros wres isel am 25 munud, tra byddwch yn bwrw ymlaen gyda’r mascarpone.

Chwipiwch y mascarpone ynghyd â’r siwgr caster. Pan yn barod i’w fwyta, gallwch naill ai ei weini mewn haenau gan ddechrau gyda’r rhiwbob, yna bydd y marscapone a gorffen gyda’r crymbl, neu weini ar blatiau pert fel y gwnaethom ni.

Rysáit: Anna Shepherd
Delwedd: Jess Lea-Wilson

3
YOUR BASKET
'Pinch Me' Tin
'Pinch Me' Tin
Price: £2.00
- +
£2.00
A6 Menai Bridge Greetings Card
A6 Menai Bridge Greetings Card
Price: £2.95
- +
£2.95
Watercolour Ceramic Jar with 100g Pure White Sea Salt
Watercolour Ceramic Jar with 100g Pure White Sea Salt
Price: £21.00
- +
£21.00
Products you might like
Calculate Shipping
Shipping options will be updated during checkout.