Pum rheswm i fwcio baddon gwymon yn y gaeaf

1) Mae’r cyferbynnedd yn hyfryd
Cyn gynted ag y codir caead y gasgen, mae stêm yn codi i’r awyr oer, laith. Mae’r aer yn iachaol ac yn ffres, yn debyg i ddiod, ond mae’r dŵr 40oC yn gysurus a chynnes, gan ganiatáu i’ch cyhyrau ymlacio go iawn.

2) Mae’r glaw yn ychwanegu at y profiad
Os bydd hi’n bwrw glaw, rydyn ni’n clywed dro ar ôl tro gan ein gwesteion ei fod yn ychwanegu at y profiad, yn hytrach na’i ddifetha. Mae ychydig o ddiferion o law ar yr amrannau a niwl ar y gorwel yn brofiad rhamantus tu hwnt. Cofleidiwch dymor y gaeaf ac ymlaciwch mewn baddon waeth beth fo’r tywydd.

3) Mwynhewch gwpanaid o goffi wrth eich penelin
Mwynhewch Latte Tân Gwersyll cynnes, wedi’i ddanfon yn uniongyrchol atoch gan un o’n tîm, felly fydd dim rhaid i chi hyd yn oed adael y gasgen.

4) Rhowch faeth i’ch croen sych
Pan fydd ein tîm arbenigol yn ychwanegu’r gwymon at y dŵr cynnes, mae’n rhyddhau olewau lleithio naturiol, sy’n wych ar gyfer croen sych.

5) Mwynhewch y mynyddoedd, sy’n aml dan eira
Mae Eryri yn wledd i’r llygaid pan mae’r copaon yn wyn. Mae hud y gaeaf yn amlwg yma.

“Mi gefais law ond roedd gen i het wlân, diolch byth. Mi wnaeth y dŵr cynnes fy ymlacio a’m hiacháu’n llwyr. Gallwn deimlo meddalwch y dŵr a’r olewau ar fy nghroen.”

– adolygiad ar TripAdvisor yn ddiweddar

Cydnabyddiaeth am y llun/lluniau: Anna Higson