Wrth i silffoedd siop lysiau ddechrau llenwi gyda thomatos o bob lliw a llun, roeddem yn awyddus i rannu tarten sy’n eu rhoi yn ganolbwynt. Mae’r cinio cyfoethog gyda blas umami yn edrych mor hardd ag y mae’n blasu. Rydym yn defnyddio tomatos o’n hoff dyfwyr yma, Cwmni Tomato Ynys Wyth.

DIGON I 4
1kg cymysgedd o domatos cymysg, pob siâp, lliw a maint.
Halen Môn Pur neu Halen Môn Mwg 4 shibwnsyn,
wedi’u sleisio’n fân 2 ewin o arlleg,
wedi’u sleisio’n fân 100g sbigoglys,
edi’u golchi croen lemwn olew olewydd 1 ddalen o grwst pwff

Cynheswch y popty i 120C. Hanerwch y tomatos o gwmpas eu canol a’u trefnu ar hambwrdd rhostio. Ychwanegwch binsiad hael o Halen Môn Pur a phupur du. Rhowch yng nghanol y popty am awr a hanner – dwy awr ond cadwch lygad ar y tomatos bach gan y byddant yn coginio’n llawer cynt. Bydd y tomatos yn barod pan fydd swigod ar eu crwyn ond heb losgi.

Tra bod y tomatos yn coginio, cynheswch badell ffrio 23cm, sydd yn addas i ffwrn, dros wres canolig ac ychwanegwch sblash o olew olewydd. Coginiwch y shibwns am ychydig o funudau, yna ychwanegwch y garlleg a’i goginio am funud neu ddwy arall cyn ychwanegu’r sbigoglys a chroen lemwn. Coginiwch am ychydig mwy o funudau nes bod y sbigoglys yn gwywo. Tynnwch oddi ar y gwres a draeniwch unrhyw leithder trwy ridyll, gan ei gwthio i lawr gyda chefn llwy bren. Sychwch y badell gyda phapur cegin, yna rhwbiwch yr olew olewydd o amgylch yr ochrau. Rhowch o’r neilltu tan yn ddiweddarach.

Pan fydd y tomatos wedi cael eu hamser, trowch y ffwrn hyd at 180C. Arllwyswch ychydig o olew olewydd (tua 1 llwy fwrdd) i mewn i waelod y badell ffrio. Rhowch y tomatos, gyda’r croen i fyny, ar waelod y badell (peidiwch â phoeni os oes rhywfaint o orgyffwrdd). Trefnwch y sbigoglys ar ben y tomatos, yna torrwch ddalen o grwst ychydig yn fwy na’r badell. Rhowch y crwst dros y gymysgedd o sbigoglys a thomato a phinsiwch yr ochr i mewn.

Rhowch yn y ffwrn am 25-30 munud nes bod y crwst yn euraidd ac wedi ymchwyddo. Pan fyddwch yn barod i’w fwyta, rhedwch sbatwla o amgylch yr ymyl i lacio ochr y darten a rhowch blât ychydig yn fwy dros y top. Gan ddal y sosban a’r plât ynghyd ag un llaw ar bob ochr, trowch y badell drosodd. Gweinwch gyda salad gwyrdd.

Any orders placed between 20th Dec – 4th Jan will be despatched on 4th Jan 2021. Read More.

beach

Stay in touch

We put a lot of time and care into our newsletters, and want them to be something you look forward to opening rather than deleting.

Expect original recipes from brilliant chefs, links to interesting and delicious things, and of course, plenty of beautiful pictures of the Salty Isle. It's a flicker of Ynys Môn in your inbox, around once a month.

We know you get a lot of emails and we promise not to go overboard. You can unsubscribe at any time.

0
Your basket