Pryd hardd llachar a ffordd wych i ddefnyddio courgettes dros ben.

DIGON I 8-1
6 courgette
ffa dringo 500
ffa Ffrengig 500
llond llaw o ddail gorthyfail
llond llaw o ddail mintys
2 lwy fwrdd o hadau pabi
2 lwy fwrdd tahini gola
1 oren, sudd a chroen
4 llwy fwrdd o olew olewydd
2 llwy de o sudd masarn
2 lemwn, sudd
Halen Môn Garlleg Rhost

Pliciwch y courgettes mewn rhubanau tenau hir gyda phliciwr Y, gan stopio wrth gyrraedd yr hadau gwlanog yn y canol. Cymysgwch gyda sudd un lemwn a phinsied mawr o halen môr pur a’i gosod o’r neilltu. Torrwch top a chynffon yr holl ffa. Pliciwch y croen i lawr ochr y ffa dringo i gael gwared ar unrhyw gwreiddiau anodd, yna torrwch nhw yn groeslinol yn ddarnau 2 fodfedd. Berwch yr holl ffa mewn dŵr gydag ychydig o halen am 3 munud nes bron yn feddal. Draeniwch dan ddŵr oer ar unwaith. I wneud y dresin, rhowch chwisg i’r tahini, sudd oren a chroen ynghyd â gweddill y sudd lemon, olew olewydd, surop masarn a halen môr garlleg i roi blas. Llaciwch gydag ychydig o ddŵr os oes angen. Blaswch ac addaswch y sesnin. Torrwch y ffa Ffrengig yn ei hanner, ac yna eu cyfuno â courgette, ffa dringo, ffa cannellini, perlysiau a hadau pabi mewn powlen fawr. Arllwyswch y dresin drosto.

Rysáit: Anna Shepherd

LLUN: Jess Lea-Wilson

0
Your basket