Mae’r rysáit hon, gan y cogydd Eamon Fullalove, yn ffordd hynod o syml i baratoi ein cregyn gleision. Mae’n defnyddio ein Halen Môr Pur gyda Seleri i ychwanegu dyfnder sawrus. Da ni’n coginio’r rhain ar dân gwersyll, ond gallwch goginio nhw y tu mewn yr un mor hawdd.
Cynhwysion:
1 winwnsyn mawr
1 genhinen fawr
2 ewin o arlleg
1 bwnsiad bach o bersli
llond llaw o gregyn gleision fesul y person
1 potel o seidr (da ni’n defnyddio Tŷ Gwyn)
phinsiad hael o Halen Môn seleri
Yn gyntaf, torrwch y llysiau a’r garlleg mor denau ag y gallwch. Ychwanegwch yr halen seleri. Dad-barfiwch y cregyn gleision a thaflwch unrhyw rhai sydd ar agor.
Cymerwch sosban fawr, gadewch iddi gynhesu ar y tân gwersyll – da chi angen iddi sïo.
Rhowch yr holl gynhwysion sych yn yr un bowlen, er mwyn i chi gallu arllwys y cyfan i mewn ar unwaith pan fydd y sosban yn ddigon poeth.
Rhowch y cregyn gleision a’r llysiau i mewn i’r sosban, ac ychwanegwch y seidr. Gorchuddiwch gyda chaead.
Pan fydd y cregyn gleision yn agored, maent yn barod i’w bwyta. Gweinwch gyda’r persli wedi’i dorri’n fan a bara crystiog ffres.