Click here for the recipe in English.

Risotto syml efo blas sawrus cyfoethog

1 cenhinen ganolig, wedi’i thorri’n fan
2 lwy fwrdd olew olewydd pur
25g menyn heb ei halltu
2 ewin o arlleg wedi’i dorri’n fân
200g reis Arborio
175ml gwin gwyn sych
750ml stoc llysiau neu gyw iâr (efallai na fydd angen y cwbl arnoch)
100g pys wedi rhewi
1 lwy de mwstard grawn cyflawn
bwnsiad fychan o fintys, efo’r dail wedi’i phigo
75g pancetta mewn ciwbiau (opsiynol)
croen a sudd 1 lemwn
2 lwy fwrdd o ddŵr mwg (gall llysieuwyr gadael y pancetta allan ag ychwanegu 3 lwy fwrdd yn lle 2 o’r dŵr mwg yma)
30g parmesan, a fwy i ratio dros y risotto

I ddechrau cynheswch sosban fawr dros wres canolig. Ychwanegwch y cennin a phinsiad o Halen Môn Pur. Trowch yn gyson am 3-4 munud , nes i’r cennin meddalu a dechrau troi yn dryleu.  Nesaf, ychwanegwch yr olew olewydd a’r menyn i’r badell. Unwaith fod y menyn wedi toddi. ac yn byrlymu, ychwanegwch y garlleg a’r reis a throwch i gotio. Parhewch i droi am 3 munud, yn tostio’r reis yn araf heb ei adael i losgi ar waelod y badell. Gostyngwch y gwres a  tolltwch y gwin i mewn, parhewch i droi nes ei fod wedi amsugno.

Nesaf, ychwanegwch y stoc, un lletwad ar y tro, a pharhewch i ychwanegu, trai, a gadael i’r reis amsugno’r hylif am 20 munud, nes bod y reis wedi tyfu, ond dal efo rhywfaint o awch. Ychwanegwch y pys a’r mwstard a thynnwch y badell o’r gwres a’i adael a 5 munud. Yn y cyfamser, cynheswch badell ffrio dros wres uchel ag unwaith ei fod yn boeth, ychwanegwch y pancetta a’i ffrio, yn ei droi yn aml am 5 munud, nes ei fod yn grimp efo lliw euraidd. Leiniwch plât efo papur cegin a thynnwch y pancetta a’i roi ar y plât er mwyn iddo grimpio.

Tynnwch y caead oddi ar y sosban ac ychwanegwch y mwstard, dŵr mwg, parmesan a mintys. Ychwanegwch hanner y sudd lemwn a blasu. ychwanegwch fwy o halen a lemwn os hoffwch wneud.

Gweinwch mewn powlenni efo fwy o parmesan a’r croen lemwn ar ben y cwbl.

Rysáit: Anna Shepherd
Delwedd: Jess Lea-Wilson

0
YOUR BASKET
Your basket is emptyRETURN TO SHOP
Calculate Shipping