Rarebit Cwrw Cymreig gyda blas mwg

Rarebit Cwrw Cymreig gyda blas mwg

Wedi'i wneud gyda chwrw Cymreig a'n Dŵr Mwg ni ein hunain, mae'r caws ar dost hynod yma yn cyrraedd lefel uwch.

Digon i 4
1 llwy de o fwstard dijon
50ml cwrw Cymreig
25g menyn heb halen
175g Cheddar Gymreig siarp, wedi'i gratio - da ni'n hoffi caws Hafod
melyn 2 wy
Llond llaw o ddarnau corwinwyn
1 llwy fwrdd o Dŵr Mwg
4 sleisen drwchus o surdoes

Cymysgwch y mwstard a'r cwrw mewn sosban fach dros wres isel, yna trowch y menyn i doddi. Ychwanegwch y cheddar a'i droi nes bod y caws wedi'i doddi. Peidiwch â gadael iddo ferwi. Tynnwch y sosban oddi ar y gwres a ychwanegwch yr wyau, corwinwyn a dŵr mwg.

Tostiwch y bara ar y ddwy ochr, yna trowch eich gril hyd at y gwres uchaf. Trefnwch y tost yn daclus ar hambwrdd a rhannwch y gymysgedd rhwng y pedair sleisen (peidiwch â phoeni amdano yn lledu dros ymylon y bara). Rhowch o dan y gril nes ei fod yn euraidd ac yn bwblio.

Bwytewch yn syth gyda salad cymysg.

Rysáit: Anna Shepherd
Llun: Jess Lea-Wilson