Cywydd yr Halen gan John Williams, 1839

Cywydd yr Halen gan John Williams, 1839

Cywydd yr Halen John Williams, 1839 (Ioan ap Ioan; 1800 - 1871), Gweinidog y Bedyddwyr ac awdur Oh! am ganwyll pwyll i'm pen I hylaw wel'd lles Halen, Ac awenydd, lwysrydd lên, I hwylus brydu i Halen. Myn pawb mai câs iawn mewn pen Yw ŵy hilig heb Halen: Hylwgr yw'r oll, heb Halen, A llwyr wael, sydd is lloer wen. Holi yn glau am Halen I'w cawl mae ieuangc a hen. Hiliai y cig heb Halen, Madronai, prydai i'r pen. O ddifri', 'chaem ni îs nen, Heli oni b'ai Halen: E welir fel mae Halen Yn rhôdd o drefniad ein Rhên: Is haul fe drefnws Halen Rhag madreddau, heintiau hen. Y byd, madronai i ben, Byw helynt, on' bau Halen Fraint werthfawr! yn awr, îs nen, Y Duw Hael, mae dau Halen - Halen naturiol hylwydd, A Halen gras, rhadras rhwydd; Halen cyfamod Celi; Halen yr Ion, radlon Ri; Halen o elfen eilfyd; Halen Iôr i buro'r byd; Halen yr Iesu haelwych; Halen pêr, gwiwber, a gwych. Crawen o Halen helaeth Iôr y nef, yn wir, a wnaeth Fyrdd yn saint mewn braint a bei, Coelier, ar ddelw ein Celi: A Halen yw hwn eilwaith Ganmolir, folir yn faith. Ys Halen, os craff sylwir, O hwn ydyw'r saint yn wir; Halen o Halen ynt hwy, Rai didwyll, mae'n gredadwy. O Dduw, gwna fi fel Halen, Bob awr, o les mawr, Amen.