Galette Mwg Stilton, Corbwmpen + Theim
DIGON I 4 – 6
750g pwmpen cnau neu bwmpen arall, heb hadau ac wedi’i dorri’n ddarnau 2cm
olew olewydd, ar gyfer coginio
1 nionyn wedi’i dorri’n fân
200g sbigoglys, wedi ei olchi a’i wasgu’n sych
1 llwy fwrdd Dŵr Mwg Derw Halen Môn
1 dalen crwst brau
10 grawnwin gwyrdd di-had, wedi’u haneru
75g Stilton
50g cnau Ffrengig
dail ychydig o sbrigiau o deim
25g menyn, wedi’i doddi
Cynheswch y popty o flaen llaw i 200C / nwy 6. Rhowch y corbwmpen mewn hambwrdd rhostio gyda digon o olew olewydd i’w cotio gyda phinsiad hael o halen a phupur.
Rostiwch yng nghanol y ffwrn am 25 munud, nes bod y corbwmpen yn feddal ac yn dechrau lliwio ar yr ymylon. Rhowch ar blât i oeri a gadwech y popty ymlaen.
Tra bod y corbwmpen yn rhostio, gallwch daro ymlaen â gweddill y llenwad. Cynheswch lwy fwrdd o olew olewydd mewn padell ffrio sydd â gwaelod trwm ac ychwanegwch y nionyn, ynghyd â phinsiad o halen. Coginiwch dros wres canolig, gan droi’n rheolaidd, am 8-10 munud, nes bod y nionyn yn feddal a lled dryloyw. Ychwanegwch y sbigoglys a’i goginio nes iddo wywo. Os yw’n ddyfrllyd iawn, draeniwch yr hylif cyn ychwanegu’r Dŵr Mwg Derw a throi drwodd. Rhowch y nionyn a’r sbigoglys blât i oeri.
Gorchuddiwch hambwrdd pobi fawr gydag ychydig o olew. Rholiwch y crwst mewn i gylch (tua 20cm ar draws) a’i roi ar yr hambwrdd pobi. Rhowch y corbwmpen sydd wedi oeri ychydig yng nghanol y crwst, gan adael 2-3cm ar yr ochrau.
Rhowch y gymysgedd sbigoglys mwg dros corbwmpen, yna nythwch y grawnwin yn y sbigoglys a’r corbwmpwn. Briwsionwch y Stilton mewn darnau mawr a gwasgarwch y cnau Ffrengig a’r dail teim dros y cyfan.
I orffen y galette, codwch ymylon y crwst a’u plygu dros y llenwad, gan ddefnyddio’ch bysedd i wasgu a chrychu’r ychydig wrth i chi fynd. Brwsiwch y menyn wedi’i doddi dros y crwst agored a rhowch y galette yng nghanol y ffwrn am 20 munud, nes bod y crwst yn crisp ac yn euraidd ac mae’r caws wedi ei doddi.
Gweinwch gyda salad gwyrdd crisp neu slaw llysiau gwraidd wedi’i gratio.
Delweddau: Liz + Max
Rysáit: Anna Shepherd