Cawl India Corn Mwg Anna Jones

by | Hyd 14, 2017

INGREDIENTS

DIGON I 4
4 wy organig
olew olewydd
1 cenhinen fawr, wedi’i sleisio’n fân
2 ewin o arlleg, wedi’i sleisio’n fân
2 datws blawdiog mawr, wedi’u plicio
3 clust o india corn
400ml stoc llysiau
2 llwy fwrdd dŵr mwg (opsiynol; gweler y cyflwyniad)
bwnsiad mawr o brwysgedlys
150ml crème fraîche
sudd 1/2 lemon

Mae’r rysáit hon yn dod o lyfr hardd newydd Anna Jones The Modern Cook’s Year.  O’r dyddiau gaeaf oeraf i nosweithiau hir haf golau, mae’n llawn dop o syniadau ac eisoes yn hoff lyfr ar ein silff llyfr.

‘Dwi’n bwyta hyn ar ddiwrnodau hydref cynnar, pan mae’r oerni’n dechrau ymsefydlu, pan fydd y siwmperi yn dod i lawr o’r llofft ac mae’r tân yn cael ei oleuo am y tro cyntaf, ond mae ‘na rywfaint o India corn o gwmpas. Mae hwn yn ddysgl sy’n llenwi a chynhesu ond hefyd yn cynnig ffresni. Y tro cyntaf i mi ei wneud, bwytaodd John dair bowlen.

Os gallwch chi gael eich dwylo arno, mae dŵr mwg yn gynhwysyn anhygoel; gallwch ei brynu gan Halen Môn. Os ydych chi’n buddsoddi mewn potel, mae hefyd yn wych mewn risotos a stiwiau.

Dewch â phadell fach o ddŵr i’r berw, ychwanegwch yr wyau a choginiwch am 6 munud, fel bod y melyn yn dal i fod yn feddal ond heb fod yn slwtshlyd. Wedi iddynt goginio, craciwch eu plisgyn ar wyneb gwaith fel eu bod yn hawdd eu plicio, yna eu rhedeg dan ddŵr oer am funud.

Yna rhowch chwistrelliad o’r olew i mewn i sosban fawr drwm. Unwaith y bydd hi’n boeth, ychwanegwch y cennin a’r garlleg a’i goginio am 10-12 munud, nes bod y cennin yn feddal a melys ond heb fod yn frown.

Yn y cyfamser, torrwch y tatws yn ddarnau tua 1cm. Torrwch yr india corn o’i gobyn.

Unwaith y bydd y cennin wedi cael eu hamser, ychwanegwch y tatws a’r india corn i’r sosban gyda’r stoc a dŵr mwg, os ydych chi’n ei ddefnyddio, yna coginiwch am 15 munud neu nes bod y tatws wedi’u coginio trwyddynt.

Defnyddiwch yr amser yma i blicio’r wyau a’u torri yn eu hanner, a thorrwch y dail brwysgedlys yn fras.

Unwaith y bydd y tatws wedi’u coginio, cymerwch y crème fraîche a sudd lemon a hanner y coriander a’u troi i’w cynhesu, yna tynnwch y sosban oddi ar y gwres.

Gweinwch y cawl mewn powlenni, gyda’r wy wedi’i haneru ar ben a mwy o goriander wedi ei wasgaru drosto.

DELWEDD: Ana Cuba
RYSÁIT: Anna Jones (o The Modern Cook’s Year)

0
Your basket