Mae’r bara fflat yma yn cymryd naws sawrus go iawn o’r dŵr mwg. Mae’r blas golosg yn mynd yn dda gyda phopeth o ffalaffel i gig oen rhost, halwmi i hwmws, salad tomato syml i byrgyrs traddodiadol.

DIGON i 6

AR GYFER Y BARA PLANC:
175g blawd plaen
175g iogwrt naturiol
1 llwy de o bowdr pobi
25ml dŵr mwg derw
Pinsiad hael o Halen Môn Mwg Derw

AR GYFER MENYN TSILI GARLLEG (opsiynol)
50g menyn heb halen
2 ewin garlleg, wedi’u torri’n fân
dail 3 choes persli, wedi’i olchi a’i dorri’n fân
1 pinsiad hael o Halen Môn Tsili Garlleg

Cyfunwch holl gynhwysion y bara fflat gyda’i gilydd mewn powlen a’i droi gyda llwy bren. Unwaith y bydd yn dechrau dod at ei gilydd, ffurfiwch bêl gyda’ch dwylo a’i droi allan ar fwrdd blawdiog. Tylinwch y toes am funud.

Cynheswch radell dros wres canolig-uchel.

Blawdiwch bwrdd glân a rholbren, yna rhannwch y toes i mewn i 6 maint pêl golff. Rholiwch y toes tan yn 1/2cm o drwch a’u coginio mewn sypiau ar radell boeth am 2-3 munud bob ochr nes bod y toes wedi ei goginio gydag  ychydig o farciau golosg ar bob ochr. Cadwch yn gynnes yn y ffwrn nes gweini.

I wneud y menyn tsili garlleg, toddwch y menyn mewn padell ffrio yn ofalus, tan iddo jyst dechrau edrych yn ffrothiog. Ychwanegwch y garlleg a’i goginio am funud neu ddau, ac yna ei gymryd oddi ar y gwres. Ychwanegwch halen a phersli. Brwsiwch dros y bara fflat tra eu bod dal yn boeth.

Rysáit: Anna Shepherd
Delwedd: Jess Lea-Wilson

0
Your basket