Riwbob wedi ei stiwio gyda Mascarpone + Granola Halen Môr Fanila
Un o'r pwdinau haf sy'n edrych (ac yn blasu) fel petaech wedi gwneud llawer mwy nag ydych mewn gwirionedd. Mae'r granola gyda halen fanila yn ychwanegu gwead â blas chwaneg riwbob Prydeinig blasus.
DIGON I 4 – 6 Y GRANOLA:
75g menyn heb halen
60ml sudd masarn
150g ceirch
25g hadau sesame
50g almonau
¼ llwy de Halen Môn gyda Fanila
Y RIWBOB:
6 ffon (tua 500g) riwbob
1 oren, croen a sudd
2 dail llawryf
100-150g siwgr caster euraidd
Y MARSCAPONE
Pecyn 200g o mascarpone
75g siwgr caster euraidd
Cynheswch y popty i 180C. Gwnewch y granola yn gyntaf drwy doddi'r menyn a'r masarn gyda'i gilydd mewn sosban. Pan yn hylif, lluchiwch drwy'r ceirch mewn hambwrdd rhostio a rhowch yn y ffwrn am 15 munud. Tynnwch y ceirch o'r ffwrn ac ychwanegwch yr hadau sesame, cnau almon a Halen Môn Fanila. Rhowch yn ôl yn y ffwrn am 10 munud nes bod y cnau a'r hadau yn euraidd. Nesaf, torrwch y riwbob yn ddarnau 2cm a'u rhoi mewn sosban gyda'r oren, llawryf a siwgr. Gadewch y caead i ffwrdd a'i mudferwi dros wres isel am 25 munud, tra byddwch yn bwrw ymlaen gyda'r mascarpone.
Chwipiwch y mascarpone ynghyd â'r siwgr caster. Pan yn barod i'w fwyta, gallwch naill ai ei weini mewn haenau gan ddechrau gyda'r rhiwbob, yna bydd y marscapone a gorffen gyda'r crymbl, neu weini ar blatiau pert fel y gwnaethom ni.
Rysáit: Anna Shepherd
Delwedd: Jess Lea-Wilson