Porc Rhost Carwe Anja Dunk

Porc Rhost Carwe Anja Dunk

Bydd unrhyw un sydd wedi bod yn ddigon ffodus i fwyta mewn digwyddiad lle mae Anja wedi coginio yn gwybod pa mor dda y bydd y llyfr newydd hwn, Strudel, Noodles and Dumplings, yn mynd i fod. Mae llyfr hir-ddisgwyliedig o fwyd cenedlaethol yn profi bod mwy i fwyd Almaenig na Bratwurst a Black Forest Gateau. O ryseitiau fel wafflau gwenith cyflawn llaeth enwyn i borc rhost carwe gyda colslo bresych coch, cwins ac afal, mae ei ffordd o goginio yn fywiog, onest, a chyflym. Byddwn yn rhoi copi i ffwrdd trwy ein cyfrif Instagram yn ystod yr wythnosau nesaf, ond yn y cyfamser, mae Anja wedi bod yn garedig i rannu rysáit teuluol ar gyfer Porc Rhost Carwe, isod. Daw'r rysáit porc rhost hwn oddi wrth fy hen nain, Hedel. Mae gogoniant y rysáit yn gorwedd yn y saws - trwy ryw alcemi anhygoel, mae hi wedi llwyddo i greu grefi allan o ddim heblaw ychwanegu dŵr at y badell o bryd i'w gilydd. Digon i 6 – 8 Bydd arnoch angen hambwrdd pobi mawr 2 winwnsyn, wedi'u plicio a phob un wedi'i dorri'n 3 1 x darn o goes porc 2kg 1 llwy de o olew blodyn yr haul 2 llwy de hadau carwe 2 llwy de mintys y graig sych 2 llwy de Halen Môn ½ llwy de pupur du ffres Cynheswch y popty i 240°C/220°C ffan/nwy 9. Rhowch y winwns i mewn i waelod yr hambwrdd pobi mawr. Sgoriwch groen y porc a'i roi ar ben y winwns. Ychwanegwch yr olew a rhwbiwch efo’r hadau carwe, mintys y graig, halen a phupur. Rhowch y porc yng nghanol y ffwrn am 20 munud, yna trowch y ffwrn i lawr i 190°C / 170°C ffan/nwy 5 ac ychwanegwch 500ml o ddŵr berwedig i'r hambwrdd. Dylai'r dŵr ddod y rhan fwyaf o'r ffordd i fyny'r winwns ond heb gyffwrdd â'r cig. Ar ôl 20 munud, dylai rhan fwyaf o'r dŵr fod wedi anweddu, gyda'r hylif sy'n weddill yn frown. Arllwyswch 500ml arall o ddŵr berwedig i mewn i'r hambwrdd. Ar ôl hanner awr ychwanegwch 400ml arall o ddŵr berwedig i'r hambwrdd. Dylai porc fod wedi coginio rhwng 1 awr a 40 munud a 2 awr ar ôl iddo fynd i'r popty gyntaf, ond mae'n dibynnu ar eich popty. Archwiliwch y cig ar ôl 1½ awr, ac os yw'r grofen yn brownio gormod, gorchuddiwch â ffoil. Gosodwch y porc ar un ochr i orffwys, a phrofwch y saws i wneud yn siŵr bod digon o sesnin; os ydych yn dymuno, ac yr wyf yn aml yn ei wneud, ychwanegwch lwy de o Marmite neu Worcestershire. Rydyn ni'n bwyta hyn gyda Knödel a bresych coch, ond mae’n hyfryd gyda thatws a llysiau gwyrdd. Mae'r rysáit yma yn dod o 'Strudel, Noodles and Dumplings'.