Panzanella Tomato Mwg Hafaidd

Panzanella Tomato Mwg Hafaidd

Mae'r salad bara Tysgaidd clasurol yn cael ei weddnewid yma gyda llwy fwrdd o'n Dŵr Mwg yn marinadu'r tomatos am nodyn ysgafn. Dull syml a blasus o wneud y mwyaf o dymor tomato Prydain.

DIGON I 4
3 sleisen o fara surdoes, wedi'i rhwygo'n fras
4 llwy fwrdd o olew olewydd gwyryf
2 llwy de Halen Môn
500g o domatos cymysg ffres (cawsom rhai ni gan Gwmni Tomato Ynys Wyth)
1 llwy fwrdd o Ddŵr Mwg
50g o olewau kalamata tyllog
Pêl 125g o mozzarella byfflo, wedi'i rhwygo'n fras
Dail o dusw bach o fintys
1 llwy fwrdd o finegr balsamig o ansawdd da

Cynheswch y popty i 200c. Trowch a throswch y bara mewn tun rostio gyda'r olew olewydd a llwy fwrdd o halen. Rhowch yn y ffwrn boeth am 15 munud, ysgydwwch dwywaith yn ystod yr amser hwn tan ei fod yn euraidd a chrisp.

Yn y cyfamser, torrwch y tomatos mwyaf yn denau o gwmpas eu canol, hanerwch y rhai llai, a thorrwch y gweddill i mewn i letemau i greu cymysgedd diddorol o siapiau a meintiau. Trefnwch ar ddysgl ac arllwyswch y dŵr mwg drostynt, ysgeintiwch yr halen sy'n weddill dros y cyfan.

Trowch a throswch i gyfuno'r cyfan. Gadewch i'r blasau ddatblygu am 5 munud cyn cymysgu efo'r bara. Erbyn hyn, bydd yr halen wedi dechrau tynnu rhywfaint o'r sudd tomato i'r bara, a'i feddalu ychydig.

Cymysgwch yr olewydd, mozzarella a mintys (gan gadw ychydig o'r dail llai i'w haddurno) a thaenwch finegr balsamig dros y cyfan. Trowch y salad unwaith eto cyn ychwanegu'r mintys i'w haddurno.

RYSÁIT: Anna Shepherd
FIDEO: Jess Lea-Wilson
GOLYGU: Jake Lea-Wilson