Panad gyda ... Enillydd 'Great British Bake-Off' Frances Quinn

Panad gyda ... Enillydd 'Great British Bake-Off' Frances Quinn

Mae Frances Quinn mor adnabyddus am fod mor dda am bobi ag y mae am ddylunio. O gacennau disglair Midsummer Night's Dream, i'w labeli rhodd sinsir gyda llinyn careiau mefus, cacennau sbwng Victoria sy'n edrych fel brechdanau, i bowlenni o uwd sy'n edrych fel wyau wedi'u ffrio, mae hi'n gwneud pethau sy'n edrych cystal ag y maent yn blasu. O BLE DDAETH EICH CARIAD AT FWYD? Teulu a ffuglen. Dwi'n dod o deulu mawr, y ieuengaf o bump, felly roedd y gegin a bwyd bob amser yn rhan fawr o fywyd wrth i mi dyfu i fyny. Roedd fy rhieni hefyd yn berchen ar siop lyfrau felly roedd lyfrau fel The Tiger who Came to Tea a The Giant Jam Sandwich yn ffefrynnau cynnar! Heb anghofio'r holl ddarluniau o fwyd gan Quentin Blake yng nghlasur Roald Dahl. Cacen siocled i Bruce unrhyw un?! BE GAWSOCH I FRECWAST? Uwd gyda datys wedi'u torri, banana, sinamon, surop masarn, almonau wedi'u tostio ac yr olaf o fy halen Halen Môn fanila! I BLE DA CHI'N MYND ALLAN I FWYTA? Dwi'n hoffi cefnogi a darganfod llefydd annibynnol cymaint â phosibl ac ymweld â marchnadoedd bwyd o gwmpas y wlad. Dwi hefyd yn caru sushi. Croesewir argymhellion! BE OEDD EICH SWYDD GYNTAF? Gweithio mewn siop lyfrau fy rhieni. BETH YW’CH 3 HOFF GYNHWYSYN? Sinamon, moron a choffi GYDA BE MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU? Uwd a chorbys DISGRIFIWCH GYMRU MEWN 5 GAIR Bara Brith a Chacennau Cri BLE DA CHI'N MEDDWL FOD YNA SIN BWYD CYFFROUS? Vancouver a San Francisco. BETH FYDDWCH CHI’N EI FWYTA AR ÔL CYRRAEDD ADRA AR DDIWEDD DIWRNOD HIR O WAITH? Er bod pobl yn fy adnabod am gacennau, dwi wrth fy modd yn creu powlenni mawr lliwgar llawn o lysiau, grawn a chodlysiau. BE YW EICH HOFF LYFR COGINIO? British Baking gan Peyton & Byrne. Hefyd er nad wir yn llyfr coginio, dwi wrth fy modd yn cyfeirio at The Flavour Thesaurus gan Niki Segnit.