Panad gyda ... Cyd-sylfaenydd Halen Môn, Alison Lea-Wilson

Panad gyda ... Cyd-sylfaenydd Halen Môn, Alison Lea-Wilson

Mae Alison, cyd-sylfaenydd Halen Môn, yn un sydd wrth ei bodd lle mae bwyd yn y cwestiwn. Mae hi'n teithio'r byd o Shanghai i St Petersburg i werthu Halen Môn ac mae hi bob amser yn cario llyfr nodiadau i gofnodi pob rysáit sydd yn ei ysbrydoli ar hyd y ffordd. Mae ganddi gymaint o sgiliau yn y gegin ac sydd ganddi wrth werthu ein halen (mae ei surdoes, yn arbennig, yn rhywbeth i'w chanfod). Yma mae'n sôn am yr hyn mae Cymru yn golygu iddi ynghyd a thrychinebau yn y gegin. BETH OEDD EICH SWYDD GYNTAF? Dwi wedi gweithio mewn siop deunydd ysgrifennu oedd yn arogli o bensiliau a phapur newydd. Roeddwn hefyd yn gynorthwyydd mewn becws lle gallech ddewis cacen i'w fwyta yn eich egwyl, gweinyddes, lluosogwr mewn meithrinfa blanhigion, morwyn bar, cyfosodwr mewn ffatri blastig a chogydd. O BLE DDAETH EICH CARIAD AT FWYD? Fy nheulu. Eistedd o amgylch y bwrdd i fwyta brecwast a swper oedd yr arfer. Roedd fy nain yn bobydd p fri ac roedd y mwyafrif o achlysuron cymdeithasol yn canolbwyntio ar fwyd. Ysgrifennais fy llyfr ryseitiau fy hun pan yn blentyn ac roedd yn cynnwys llawer o bethau rhyfedd o'r ardd fel neithdar gwyddfid a dail helyg. BE' GAWSOCH I FRECWAST? Tost surdoes gydag afocado a Halen Môn - do wir i chi! chickens BETH YW EICH PRYD MWYAF COFIADWY HYD YMA MEWN BYWYD? Bu cymaint ohonynt. Mae rhai yn gofiadwy am y cwmni, eraill am y lleoliad ac eraill am y bwyd. Y Stone Barn, Blue Hill, Efrog Newydd, lle ddaru bob cwrs yn gwneud i ni wenu yn ogystal â glafoerio. Gwledd bwyd môr ar draeth ffrind yn Ynys Môn Mae rôl cimwch yn Rhode Island Cymryd gwyriad oddi ar y brif ffordd rhwng Nice a'r Eidal a ddatgelodd bwyty bwyd môr ar y traeth gyda Halen Môn ar bob bwrdd Stêc ym mwyty Zingerman Pryd o fwyd bythgofiadwy yn y Fat Duck A swper yn Y Tŵr CN, Toronto Nifer o giniawau Nadolig dros y blynyddoedd, gan rannu poteli da o win coch gyda fy nhad. BETH YDYCH CHI'N EI FWYTA AR ÔL DIWRNOD HIR YN Y GWAITH? Wyau gan ein hieir hunain wedi potsio ar fy surdoes wedi tostio gyda phentwr o fenyn hallt. GYDA BE MAE HELEN MÔN YN MYND ORAU? Tatws rhost DISGRIFIWCH GYMRU MEWN 5 GAIR Balch, pell-weledig, cynhwysol, hardd a magwraeth BETH YW EICH HOFF AROGL? Y môr hallt BETH YW EICH TRYCHINEB GWAETHAF YN Y GEGIN? Past papur wal llwyd yn lle gnocchi PA GYNHWYSYN A THANDDEFNYDDIR MWYAF? Hyder BETH SY'N GWNEUD Y GWAHANIAETH RHWNG A PHL T DA BWYD AC UN ANHYGOEL? Mae halen a phupur cywir, cyflwyniad hardd, amgylchoedd a chwmni cywir DELWEDDAU: J Lea-Wilson