Paflofa Mwyar Duon + Saets gyda Saws Caramel â Halen Cartref

Paflofa Mwyar Duon + Saets gyda Saws Caramel â Halen Cartref

Mae'r pwdin dirywiaethol hwn yn rysáit hawdd a hyblyg. Rhowch gynnig arno gydag unrhyw ffrwythau tymhorol ac arbrofwch gyda pherlysiau. Os ydych chi'n fyr ar amser, defnyddiwch ein Saws Caramel â Halen ni. Yn hyfryd gyda gwydraid o win melys. Ymddangosodd y rysáit hwn yn wreiddiol yn The Telegraph Magazine. DIGON I 8 Y Paflofa gwyn 3 wy pen domen 175g siwgr caster 1 llwy fwrdd hufen tartar Y Saws 100g siwgr gronynnog 30g menyn heb halen, yn giwbiau 60ml hufen sengl 1 llwy fwrdd Halen Môn gyda Fanila neu Halen Môn Mwg Derw Yr haen uchaf 500ml hufen dwbl 400g mwyar duon ychydig ysbrigau o saets Cynheswch y popty i 160C / nwy 3. Rhowch bapur gwrthsaim dros hambwrdd pobi. Chwisgwch y gwyn yr wyau gyda chwisg trydan. Pan fyddant yn edrych yn braf, ychwanegwch y siwgr un llwy de ar y tro, ynghyd â'r hufen tartar. Pan fo'r gymysgedd yn sgleiniog, lledaenwch ar yr hambwrdd a baratowyd mewn cylch neu sgwâr, defnyddiwch gefn llwy i'w gwastatáu ychydig. Coginiwch am awr neu hyd nes bod y paflofa yn crisp a malws-felys, trowch y popty i ffwrdd a gadewch iddo oeri ynddo. I wneud y saws, toddwch y siwgr mewn padell drwm dros wres canolig, gan droi'n achlysurol. Cadwch lygad ar y sosban a phan fydd gennych hylif aur ysgafn, chwisgiwch y menyn cyn gynted ag y gallwch. Tynnwch o'r gwres, chwisgiwch yr hufen i mewn ac ychwanegwch yr halen. Gadwech iddo oeri ychydig. I weini, chwisgiwch yr hufen dwbl i gopaon stiff a'i ledaenu ar y paflofa. Rhowch y mwyar duon ar ben yr hufen ac ychwanegwch y saws caramel â halen am ei ben. Gorffennwch gydag ychydig ysbrigau o saets. Rysáit: Alison Lea-Wilson Delweddau: Liz + Max