Norwy amdani

Norwy amdani

Ein hadduned blwyddyn newydd oedd ceisio cyfuno pleser â busnes. Rwyf yn ffodus iawn fy mod yn mwynhau fy ngwaith, ond dydw i erioed wedi manteisio'n llwyr o'r mannau yr wyf wedi ymweld â nhw. Felly yr oedd wrth i ni hedfan i Oslo bron i 48 awr o flaen ein hapwyntiad cyntaf yn y Daith Fasnach 'GREAT' i Norwy. oslo_3 Ar ôl swper mawr (gydag amnaid Nordig yn hytrach na bod yn llawn o nodwyddau pinwydd ac wedi swatio mewn mwsogl ceirw) roedd 'na noson dda o gwsg ac yna codi gan ysu i fynd ar yr hyn a drodd allan i fod yn strafagansa amgueddfa forwrol. Aeth yr Amgueddfa Fram a ni drwy'r helynt a heriau o fod yn fforwyr Antarctig gyda'i lwyddiant yn seiliedig i raddau helaeth ar y gwaith dylunio clyfar a chynllunio ymlaen. oslo_4 'Roedd yr Amgueddfa Kon-Tiki yn wrthgyferbyniad llwyr gyda llwyddiant y daith yn seiliedig ar benderfyniad llwyr gydag ychydig iawn o baratoi. Ac yn olaf roedd casgliad llongau hir y Llychlynwyr yn cynnwys 3 l long oedd wedi eu darganfod mewn tomenni claddu ond does neb yn siŵr beth oedd arwyddocâd hyn. oslo_2'Roedd ein digwyddiad "Cwrdd â'r Prynwr" dilynol yn dda ac yn bleserus fel 'roedd ein hwyl wrth brynu siwmper Norwyaidd. Edrychwch allan am David yn gwisgo ei siwmper a het o gwmpas y Tŷ Halen newydd: fo yw'r un sy'n edrych fel clawr patrwm gwau o'r 1960au. (Gweler y chwith, lle mae'n ôl adref yn yr heulwen ac yn rhoi côt o baent ar ein cwt traeth.)