Galette Mwg Stilton, Corbwmpen + Theim

Galette Mwg Stilton, Corbwmpen + Theim

Mae'r galette hyfryd sawrus yma yn berffaith ar gyfer swper dathlu ac mae'n dod at ei gilydd yn llawer cyflymach nag y gallech feddwl. Tarten lysieuol wych y bydd pawb am gael tafell ohoni. Roedd y rysáit hon wedi ymddangos yn wreiddiol yn The Telegraph Magazine. DIGON I 4 – 6 750g pwmpen cnau neu bwmpen arall, heb hadau ac wedi'i dorri'n ddarnau 2cm olew olewydd, ar gyfer coginio 1 nionyn wedi'i dorri'n fân 200g sbigoglys, wedi ei olchi a'i wasgu'n sych 1 llwy fwrdd Dŵr Mwg Derw Halen Môn 1 dalen crwst brau 10 grawnwin gwyrdd di-had, wedi'u haneru 75g Stilton 50g cnau Ffrengig dail ychydig o sbrigiau o deim 25g menyn, wedi'i doddi Cynheswch y popty o flaen llaw i 200C / nwy 6. Rhowch y corbwmpen mewn hambwrdd rhostio gyda digon o olew olewydd i'w cotio gyda phinsiad hael o halen a phupur. Rostiwch yng nghanol y ffwrn am 25 munud, nes bod y corbwmpen yn feddal ac yn dechrau lliwio ar yr ymylon. Rhowch ar blât i oeri a gadwech y popty ymlaen. Tra bod y corbwmpen yn rhostio, gallwch daro ymlaen â gweddill y llenwad. Cynheswch lwy fwrdd o olew olewydd mewn padell ffrio sydd â gwaelod trwm ac ychwanegwch y nionyn, ynghyd â phinsiad o halen. Coginiwch dros wres canolig, gan droi'n rheolaidd, am 8-10 munud, nes bod y nionyn yn feddal a lled dryloyw. Ychwanegwch y sbigoglys a'i goginio nes iddo wywo. Os yw'n ddyfrllyd iawn, draeniwch yr hylif cyn ychwanegu'r Dŵr Mwg Derw a throi drwodd. Rhowch y nionyn a'r sbigoglys blât i oeri. Gorchuddiwch hambwrdd pobi fawr gydag ychydig o olew. Rholiwch y crwst mewn i gylch (tua 20cm ar draws) a'i roi ar yr hambwrdd pobi. Rhowch y corbwmpen sydd wedi oeri ychydig yng nghanol y crwst, gan adael 2-3cm ar yr ochrau. Rhowch y gymysgedd sbigoglys mwg dros corbwmpen, yna nythwch y grawnwin yn y sbigoglys a'r corbwmpwn. Briwsionwch y Stilton mewn darnau mawr a gwasgarwch y cnau Ffrengig a'r dail teim dros y cyfan. I orffen y galette, codwch ymylon y crwst a'u plygu dros y llenwad, gan ddefnyddio'ch bysedd i wasgu a chrychu'r ychydig wrth i chi fynd. Brwsiwch y menyn wedi'i doddi dros y crwst agored a rhowch y galette yng nghanol y ffwrn am 20 munud, nes bod y crwst yn crisp ac yn euraidd ac mae'r caws wedi ei doddi. Gweinwch gyda salad gwyrdd crisp neu slaw llysiau gwraidd wedi'i gratio. Delweddau: Liz + Max Rysáit: Anna Shepherd