Focaccia Tomato Mwg a Rhosmari

Focaccia Tomato Mwg a Rhosmari

Mae ffocaccia ysgafn ffres o'r ffwrn, wedi'i gorffen gydag olew olewydd da, Halen Môn a thomatos yn anodd ei guro. Digon i 6 - 8 500g blawd bara gwyn cryf 5g o bowdwr burum sych 10g Halen Môn mewn fflochiau mân 300ml o ddŵr cynnes 3 llwy fwrdd d Ddŵr Mwg Halen Môn 1 llwy fwrdd o olew olewydd da, ynghyd â mwy ar gyfer ysgeintio I orffen: 200g tomatos bach, wedi'u haneru ychydig o sbrigiau o rosmari, wedi'u golchi pinsiad hael o Halen Môn Pur neu Halen Môn Mwg Cymysgwch y blawd, burum, halen, dŵr cynnes, Dŵr Mwg a'r olew olewydd mewn powlen i ffurfio toes gludiog, yna'i droi allan i arwyneb gwaith wedi ysgeintio â blawd. Gweithiwch y toes nes ei fod yn esmwyth. Dylai'r toes "bownsio'n ôl" pan fyddwch chi'n ei brocio. Os oes gennych gymysgydd bwyd gyda bachyn toes, gallech ei ddefnyddio, ond cadwch lygad ar y toes gan na fydd angen 10 munud arno yn y cymysgydd. Siapiwch y toes i mewn i bêl a gosodwch mewn powlen gydag ychydig bach o olew ynddi. Gorchuddiwch â bag neu ffilm blastig a'i gadael mewn lle cynnes nes ei fod yn dyblu mewn maint (dylai hyn gymryd tuag awr). Unwaith y bydd y toes wedi codi, rhowch ar fwrdd glân a'i wasgu i siâp hirsgwar. Gorchuddiwch dun rhostio 20 x 30cm gyda haenen denau o olew a rhowch y toes hirsgwar ynddi. Gadewch iddo godi am awr arall, hyd nes ei fod yn dyblu mewn maint eto. Cynheswch y popty i 250C, neu mor uchel ag y gall fynd. Gyda’ch bysedd, gwthiwch y toes i ffurfio tyllau bron i waelod yr hambwrdd. Gwthiwch y tomatos a rhosmari yn y tyllau a thollwch ychydig o olew olewydd drosto ynghyd a phinsiad hael o Halen Môn. Rhowch yng nghanol y ffwrn boeth am 10 munud, yna trowch y gwres i lawr i 200C a choginiwch am ddeg munud arall. Cymerwch y ffocaccia o'r ffwrn a thollwch mwy o olew olewydd drosto. Gadewch i oeri am 10 munud cyn ei dorri'n sgwariau yn y tun.