Tost Brioche Ffrengig + Compot Ceirios Sur gyda Halen Môn Fanila - Halen Môn

Brecinio: blasus ac addasadwy, a rhywsut yn fwy arbennig na brecwast. Mae llyfr newydd gan ein cyfeillion Sophie Goll a Caroline Craig yn llawn syniadau, o Shakshuka’r Dwyrain Canol i fwydydd sawrus   traddodiadol, o ‘Bowlen Brecinio’ iach i grempogau dirywiaethol. Ma’ nhw wedi bod yn ddigon caredig i rannu un o’u ffefrynnau yma, tost Ffrengig clasurol gyda chompot cartref hawdd a mymryn o Halen Môn Fanila.

Gallwch, wrth gwrs, ddefnyddio unrhyw fara  hoffwch chi, ond mae swp trwchus o frioche yn teimlo’n arbennig o faldodus.

AR GYFER 1 PERSON:

TOST FFRENGIGTost Ffrengig
1 wy
sblash bach o laeth
1 llwy fwrdd o groen lemwn
mymryn o siwgr mân
menyn, ar gyfer ffrio
1 tafell drwchus (3cm-ish) o brioche neu fara arall
I WEINI:
Siwgr eisin
Compot ceirios sur neu ffrwythau ac aeron ffres
Halen Môn Fanila

Craciwch yr wy mewn powlen go wastad llydan a’i chwisgo. Ychwanegwch y llaeth, croen lemwn a siwgr a chwisgiwch yn drylwyr.
Rhowch badell ffrio dros wres canolig ac ychwanegwch y menyn. Wrth i’r menyn doddi, rhowch y bara i mewn i’r gymysgedd wyol. Wedi i’r bara socian yn dda ac mae’r menyn yn y badell yn boeth, ychwanegwch y bara gan arllwys unrhyw gymysgedd wy dros ben drosto. Ffriwch am ychydig funudau ar bob ochr nes yn euraidd a chrisp.
Gweinwch ar unwaith, gyda’ch dewis o ffrwythau neu gompot. Taenwch Halen Môn Pur gyda Fanila am orffeniad moethus.

Y COMPOT
Gyda’r compot dwys sur-felys yma mae ychydig yn mynd yn bell. ‘Da ni’n ei hoffi gyda menyn pysgnau ar dost neu frechdan gras caws. Mae’n cadw mewn llestr aerglos am hyd at fis.
500g ceirios rhewedig, wedi dadmer
croen a sudd 1/2 lemwn
2 lwy fwrdd o driagl pomgranad
2 lwy fwrdd siwgr mân
Ychwanegwch yr holl gynhwysion i badell gyda gwaelod trwm dros wres isel i ganolig. Coginiwch yn ysgafn am 15 munud nes bod y siwgr wedi toddi.
Cynyddwch y gwres i uchel a’i goginio am 5-10 munud arall, gan ei droi o bryd i’w gilydd (a gostwng y gwres, os oes angen) i’w atal rhag llosgi, nes bod y cymysgedd yn ddigon gludiog i lynu at gefn y llwy. Gadewch i oeri cyn bwyta neu oeri yn yr oergell nes bod eu hangen.

Mae The Little Book of Brunch  gan Caroline Craig a Sophie Missing ar gael i’w brynu yma

0
Your basket