Pwdin Menyn Caramel Hallt - Halen Môn

Yn y Sioe Fawr eleni, ymhlith y moch gwobrwyol a’r offrymau eithriadol o flasus, daethom o hyd i Mikey Bell, sy’n rhedeg blog bwyd. Mae’n ysgrifennu ryseitiau syml ond blasus ac mae wedi cytuno’n garedig i ni rannu’r pwdin hiraethlon hwn ar ein blog. Am haen ychwanegol o flas, newidiwch yr Halen Môn Pur am Halen Môn Mwg Derw.

DIGON I 8 POT
100g siwgr brown meddal
45g blawd corn
1 1/2 llwy de o Halen Môn
melyn 1 wy
470ml llaeth braster llawn
100ml hufen dwbl
1 llwy de o extract fanila
20g menyn

I WEINI:
Ysgeintiad o Halen Môr

Cyfunwch y siwgr, y blawd corn a’r Halen Môn mewn padell ddofn. Hofranwch eich llaw dros bowlen wag a chraciwch wy, gan ddal yr wy yn eich llaw noeth. Daliwch y melyn yn ofalus a’i drosglwyddo o law i law wrth i’r gwyn diferu a syrthio i’r bowlen. Ychwanegwch y melyn i’r siwgr a chadwch y gwyn ar gyfer swp o feringues.

Chwisgwch y melyn i’r siwgr. Arllwyswch y llaeth mewn ychydig ar y tro, gan chwisgo wrth i chi fynd. Ychwanegwch yr hufen dwbl a’r fanila, gan barhau i chwisgo, a throwch yr hob i wres canolig.

Gadewch hyn i goginio, gan barhau i chwisgo’n ofalus, am tua 7 neu 8 munud fel bod y pwdin yn dod i fudferwi. Byddwch chi’n meddwl eich bod chi wedi ychwanegu gormod o laeth ond daliwch ati, bydd y blawd corn yn ei dewychu.

Unwaith iddo dewychu, tynnwch oddi ar y gwres ac ychwanegwch y menyn, gan chwisgo eto i’w cyfuno. Ar ôl iddo oeri arllwyswch i mewn i jar neu dwb mawr a’i storio yn yr oergell nes eich bod yn barod i weini.

Er mwyn ei atal rhag ffurfio croen (peidiwch â phoeni os yw’n digwydd, gellir ei chwisgo’n hawdd) rhowch ddarn llaith o bapur pobi a’i roi ar ei ben.
Pan fyddwch chi’n barod i weini, gorffennwch gydag ysgeintiad o Halen Môn.

DELWEDD: Lowri Bethan Hawkins

0
Your basket