Panad Gyda ... Tomos Parry (Cogydd) - Halen Môn

Yn ein blog nodwedd newydd, byddwn yn cael paned o de gyda ffrindiau a chydweithwyr sy’n gweithio yn y diwydiant bwyd ac yn gofyn 10 o gwestiynau iddynt am eu hoffter o fwyd a diod. O gynhyrchwyr i gogyddion, awduron i gyflenwyr, arddullwyr bwyd i brofwyr blas, tyfwyr i gyfunwyr, rydym yn nabod nifer o bobl sydd yn caru’r hyn maen nhw’n bwyta.

Er mwyn hogi’r archwaeth am y gyfres, dechreuwn gyda’r cogydd Tomos Parry sydd yn tyfu mewn enwogrwydd. Pellach yn gweithio, coginio a bwyta yn Llundain, mae yn wreiddiol o Fôn, Ynys yr Halen, a bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un gwych iddo. Enillodd gwobr “Young British Foodie” (Cogydd Gorau) a dilynwyd yn gyflym wrth iddo gael ei nodi fel un o’r 50 i gadw llygad arno gan gylchgrawn misol Bwyd yr Observer. Rydym yn llawn edmygedd ac yn edrych ymlaen at ymweld ei brosiect diweddaraf, Kitty Fisher, ym Mayfair, Llundain, lle mae’n prif gogydd ar hyn o bryd. Clywsom fod ei gig eidion yn anfarwol …

BETH OEDD EICH SWYDD GYNTAF?

Golchwr Potiau yn y Caffi Tŷ Pier ym Miwmares.

BLE RYDYCH CHI’N MYND ALLAN I FWYTA?

Yn Llundain, The Smoking Goat – mae’r cranc cyfan Cernyweg yn rhyfeddol, ac ar Ynys Môn, Jade Village, ein bwyty Tsieineaidd leol ym Mhorthaethwy.

BETH YW EICH 3 HOFF GYNHWYSYN?

Halen môr, olew olewydd a bara. (Ddaru ni ddim gofyn iddo ddweud hyn – wir i chi!)

GYDA BETH MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU?

Tomatos ffres.

BETH EICH PLESER BWYD EUOG?

KFC

DISGRIFIWCH GYMRU MEWN 6 GAIR

Hiraeth, Rygbi, cennin Pedr, barddoniaeth Cymraeg

Rugby

BLE YDYCH CHI’N MEDDWL MAE’R SIN BWYD MWYAF CYFFROES?

Porto, Portiwgal.

BETH YW’R CYNNWYS SYDD CAEL EU TANDDEFNYDDIO MWYAF?

Cynnyrch o Gymru!

BETH YDYCH CHI’N BWYTA WEDI I CHI GYRRAEDD ADRA AR ÔL DIWRNOD (NEU NOSON) HIR O WAITH?

Bara tomato a chwrw.

BETH YW EICH HOFF LYFR COGINIO?

Seven Fires gan Francis Mullman.

Darluniau: Jess Lea-Wilson

Ffotograff: Sioned Parry

 

0
Your basket