Panad Gyda ... Jeremy Bowen o Paxton & Whitfield - Halen Môn

Fel Fortnum & Mason a Borough Market, mae shop blaenllaw Paxton & Whitfield  ar Stryd Jermyn un o gyrchfannau bwyd eiconig Llundain. Y siop gaws orau rydym erioed wedi bod ynddi, byddwch yn arogli’r caws yn bell cyn i chi gerdded i mewn, a’i chofio ymhell ar ôl gadael. P’un yn chwilio am Arlleg Gwyllt Yarg, Perl Las, neu Gorwydd Caerffili, dylai’r siop hon fod ar ben eich rhestr. Yn wir, cafodd y busnes ei Warant Frenhinol gyntaf ym 1850 pan benodwyd yn werthwr caws i’r Frenhines Fictoria, ac mae wedi mwynhau nifer o wobrau ers hynny.

PaxtonYm mhob diwydiant, mae ‘na bobl mae pawb yn nabod ac yn y byd bwyd da, mae Rheolwr Gwerthiant Paxton’s Jeremy yn un ohonynt. Mae’n ffrind da iawn, yn gogydd hynod o glyfar, ac yn sicr mae’n un i nabod. Yma rydym yn siarad Beefeaters, Coca Cola, a bwyta trwyn i gynffon.

PWY A ADDYSGOCH CHI I GARU BWYD?
Mamgu – roedd hi’n coginio o ddim, siopa bob yn ail ddydd a byth yn gwastraffu sgrap o fwyd. Byddai cogyddion yn ei charu hi a dwi’n gweld ei heisiau.

BETH OEDD EICH SWYDD GYNTAF?
Diawch – dylwn gyfaddef? Beefeater Steakhouse ger y Bontfaen – a bod yn onest, o ganlyniad dwi’n dal i wneud coffi nofion pen ei gamp, gyda neu heb Bailey’s.

BE GAWSOCH CHI I FRECWAST?
Byddwn yn hoffi gallu dweud ffrwythau ffres tymhorol a bara ffres nes i bobi am 6y bore. Ond mewn gwirionedd dwi ddim wir yn berson y bore, a dyna pam mae espresso dwbl (fel arfer cwad) a 1 neu 2 Tortas de Aceite (bara fflat gyda beth bynnag. Maent yn grisp, melys a blasus. Dwi’n eu prynu gan Monika yn Brindisa)

BLE RYDYCH CHI’N MYND ALLAN I FWYTA?
Mae’n well gen i fwyta gyda ffrindiau o gwmpas ein byrddau cegin, er bod mynd o allan yn bleser hefyd.

asparagus

Mae’r gaeaf i mi yn ymwneud a thafarndai gwych, soffas cyffyrddus a digon o helgig. Mae newydd-deb y gwanwyn yn golygu bwyd ffres, tunelli o ferllys a chig oen. Mae’r haf yn golygu alfresco,  eistedd allan boed yn gaffi gwych yn Llundain neu deras yn edrych dros y môr (fel y byddai Kirsty & Phil yn dweud lleoliad, lleoliad, lleoliad.) Yn yr hydref dwi’n crefu tafarndai gyda thanllwyth o dân a bwyd cysur.

BETH MAE HALEN MÔN YN MYND ORAU GYDA?
Cer o ‘ma! Popeth! Dwi’n ei ddefnyddio a’i gam-drin yn ddyddiol. Mae fy ffrind Sophie Turner wrth ei fodd gydag e yn ei Bloody Mary .

BETH YW EICH PLESER BWYD EUOG?
O ddifrif? Brechdanau gorsaf betrol, ffa pob ar dost ac, mae’n ddrwg gennyf ddweud, Coke braster llawn .

DISGRIFIWCH GYMRU MEWN 5 GAIR
Yr wyf yn falch o fod yn Gymro oherwydd ein bod yn deall ac yn gwybod arwyddocâd:
Bwyd
Teulu
Cyfeillgarwch
Hanes
Gwerthoedd
Bydd y rhain byth yn cael eu colli.

BLE YDYCH CHI’N MEDDWL MAE’R SIN BWYD MWYAF CYFFROES?
Mae Gogledd Cymru ac Ynys Môn yn eitha’ cŵl. O dafarndai a bwytai dymunol i gynhyrchwyr ac arloesedd gwych – mae’r cyfan o fewn ardal fechan o Eryri i arfordir Gogledd Cymru ac ymlaen i Gaergybi, mae’n ardal fwyd i fynd ar goll ynddi.

BETH YW’R CYNHWYSYN A DANDDEFNYDDIR MWYAF?
Dwi’n ffan fawr o fwyta trwyn i gynffon – sut y gallwch daflu i ffwrdd unrhyw ran o anifail yr ydych wedi caru?

BETH YDYCH CHI’N BWYTA PAN FYDDWCH YN CYRRAEDD ADREF WEDI DIWRNOD HIR YN Y GWAITH?
Yn amlwg mae bwyd tymhorol yn cyfrif ond efallai stêc wedi’i grilio sydyn neu  wy hwyaden neu 2 a berwr y dŵr ffres, wedi’i flasuso’n dda wrth gwrs. Pum munud, joban drosodd.

Lluniau a darluniau: Jess Lea-Wilson

0
Your basket