Cwpl o fisoedd yn ôl fe gyhoeddom apêl am bleidleisiau ar gyfer ein grŵp coetir cymunedol lleol, Llyn Parc Mawr, a oedd wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr cynaliadwyedd a noddwyd gan M&S. Nod y grŵp, ac mae David Halen Môn yn rhan ohono, yw sefydlu canolfan coetir cynaliadwy er budd bywyd gwyllt ac sydd yn cyfrannu at les cymuned Niwbwrch. Mewn geiriau eraill, mae’n bwriadu ail-gysylltu pobl â’r hyn sydd ar garreg eu drws yma ar yr ynys hallt.

Cawsom gannoedd o bleidleisiau ar gyfer ein grŵp i ennill y grant gan M&S, ond dim digon i ennill. Yn hapus iawn, fodd bynnag, cawsom ein dewis ar gyfer gwobr ‘dewis y beirniaid’. Dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd M&S, Jonathan Hazeldine:

“Roedd y beirniaid wedi eu taro gan fenter incwm y prosiect, sef gweithio ar gynhyrchu golosg i ddatblygu incwm adnewyddadwy ar gyfer y parc. Roedd yn wych gweld y lefel hon o benderfyniad cymunedol i ymgymryd â gwaith adeiladu yn annibynnol gyda’r uchelgais o fod yn 100% yn gynaliadwy.”

Mae’r grŵp yn bwriadu gwario’r wobr o £11k ar baneli solar ar gyfer eu cynhwysydd, camerâu bywyd gwyllt, toiled compost, gwneuthurwr golosg, llosgwr coed, a sied sychu logiau. Mae’r grŵp wedi rhoi ei archeb gyntaf i saer o Niwbwrch, Wyn Owen, a fydd yn adeiladu hysbysfwrdd i helpu i ddiweddaru pawb gyda gweithgareddau’r grŵp, a manylion am ddigwyddiadau sydd ar y gweill.

Mae DIOLCH mawr i bawb a bleidleisiodd ac sydd wedi helpu i ledaenu’r gair. Dylai buddsoddiadau’r grŵp digwydd yr Hydref nesaf, ond bydd digwyddiadau rheolaidd ar hyd y flwyddyn, felly cadwch lygad allan am fanylion.

0
Your basket