3 Phryd bythgofiadwy yn y ddinas sydd byth yn cysgu - Halen Môn

Roedd wythnos yn y ddinas sydd byth yn cysgu yn ymweld â chwsmeriaid, cogyddion a ffrindiau yn golygu wythnos o fwyta ac yfed difrifol. Yng ngeiriau George Eliot, ‘Gall un ddweud popeth yn well dros bryd o fwyd’, felly, sut well i wneud busnes?

Yn y cyntaf o bedwar blog am ein taith, rydym wedi dewis tri o’n prydau mwyaf cofiadwy. Mae’r argymhellion hyn nid yn unig am lefydd i fwyta, pethau i’w fwyta, a llyfrau i’w prynu, ond yn bennaf oll, maent yn gymeradwyaeth o’r bobl y tu ôl i’r sefydliadau hyn, sydd yn caru’r  hyn y maent yn gwneud.

  1. DISTILLED, Tribeca

Mae’r syniad o ‘Cownter y Cogydd’ yn un gymharol newydd i ni. Fel mae’r enw yn awgrymu, mae’r gwesteion mwy neu lai yn eistedd yn y gegin, wrth ochr y tŷ bwyta ond yn ddigon agos i siarad â’r cogydd, ac, yn wir, teimlo gwres y gegin. Pan ddywedodd ein dosbarthwyr, The Rogers Collection, fod Distilled yn awyddus i gynnwys Halen Môn fel cynnyrch arwr ar fwydlen Cownter y Cogydd am fis, roeddem yn awchu darganfod mwy – am y lle ynghyd a’r cysyniad.

Distilled

Am ddwy noson yn olynol ddaru ni eistedd wrth ymyl yr holl gynnwrf, sgwrsio â newyddiadurwyr a ymunodd â ni, a rhyfeddu at greadigaethau Chef Shane Lyons wrth wledda ar popcorn enwog y bwyty, hwyad a phîn-afal a chregyn bylchog. Roedd y foie gras ei weini gyda charamel miso gyda’n halen fanila, y cawl tatws melys nefol gyda gwasgfa o fflochau garlleg tsili. Ddaru ni yfed gormod o gimlet granitas wedi halltu, cyfarfod â phobl ddiddorol iawn, a gadael gydag ein heneidiau a boliau yn fodlon.

Yr hyn mae Shane a Nick yn llwyddo gwneud yn Distilled  yw cydbwysedd rhwng ymlacio a soffistigeiddrwydd, rhywbeth anodd ei gyflawni. Mae eu gwefan yn sôn am ailddiffinio’r ‘dafarn’ – term mor gyfarwydd i ni’r ochr hon o’r Iwerydd. Mae’r bwyty uwchlaw’r cyffredin wrth uno cysur y dafarn, y croeso, y syniad o gael cymdeithasu wrth ei wraidd, ac ychwanegu bwyd rhagorol.

Gallwch weld bwydlen arbennig Halen Môn ar Chef’s Counter tan 21 Tachwedd. Gan mai ond lle i 4 sydd yna, mae’n hanfodol bwcio.

  1. STONE BARNS, Blue Hills

Ble i ddechrau gyda Blue Hills? Y fferm hardd, ymroddiad cadarn at y dathliad y tymhorau, amrywiaeth ysbrydoledig y cyrsiau niferus. A dweud y gwir, efallai dylwn ddechrau gyda’r bobl. Yn anaml rydym wedi teimlo mor gartrefol  mor bell o adref.

Stone_Barn

Yng ngwanwyn 2004, agorodd Blue Hill yn Stone Barns o fewn Canolfan Bwyd ac Amaeth Stone Barns yn Pocantico Hills, Efrog Newydd. Gyda chynnyrch o’r caeau a thir pori o’i amgylch, yn ogystal â ffermydd lleol eraill, mae Blue Hill yn Stone Barns yn tynnu sylw at adnoddau helaeth Dyffryn Hudson. Nid oes unrhyw fwydlenni. Yn lle hynny, mae gwesteion yn cael cynnig bwydlen Pori sy’n cynnwys yr offrymau gorau o’r caeau a’r farchnad.

Mae Dan Barber a’i dîm wedi bod yn defnyddio’n cynnyrch ers peth amser bellach, felly roedd yn anrhydedd i gael ein gwahodd i brofi eu bwyd. Ond cyn i ni wledda ar un o’r prydau mwyaf cofiadwy erioed, cawsom wahoddiad i siarad â’r tîm cyfan yn ystod pryd o fwyd y teulu (staff).

David_Stone_Barn

Yn ddiweddarach, pan oeddem yn eistedd i lawr i fwyta, sylweddolom pa mor wybodus oedd pob un o’n gweinyddwyr. Roeddent yn gwybod tarddiad pob cynhwysyn o’r pupur du, at y madarch puffball enfawr. Daeth pob cwrs gyda’i storïau eu hunain – am y cynhyrchwyr, y broses goginio, pam roedd y cwrs ar fwydlen Dan Barber. Ym mhob un o’n lleoliadau, roedd llyfryn bach yn mynd â ni drwy’r pedwar tymor bwyta.

Cawsom wledd o’r cynnyrch mwyaf ffres fedrwch chi ddychmygu a gyflwynwyd mewn modd chwareus, hardd a gwreiddiol ar gerameg o waith llaw, mwsogl ffres a closhiau. Wyau ieir gyda melynwy coch, sgwariau madarch gyda’r union wead o falws melys. Llysiau babi crych a melys, smores dŵr wedi’i fygu, seleriac gyda’n halen seleri. Cwrw wedi tostio, gwinoedd gwyn melys, siampên bisgedaidd. Hanner ffordd drwy ein pryd (ar ôl tua dwy awr a hanner), cawsom wahoddiad i fwyta wrth y cownter uchel yn y gegin a gwylio’r cogyddion wrth eu gwaith. Roeddem yn llythrennol yng nghanol y coginio ac yn mwynhau bwyta yn fwy o’i herwydd.

Bu ein prynhawn yn Stone Barns yn anhygoel a fydd yn aros gyda ni am flynyddoedd lawer i ddod. Mae archebu lle yn hanfodol, ac mae yna hefyd byrddau yn y bar os ydych yn chwilio am rywbeth mwy hamddenol. Mae gan Dan Barber bwyty  yn NYC ei hun hefyd.

3. CINIO HEIDI SWANSON A YOTTAM OTTOLENGHI

Gall ffotograffau bwyd da gwneud llawer o bethau ar wahân i godi chwant bwyd neu yn eich ysbrydoli i fynd yn syth i’r gegin. Yn wir, mae delweddau Heidi Swanson mor lleddfol â chwpan cynnes o gawl llysiau ar ôl nofio mewn dŵr oer. Mae marmor gwyn, pren glân a phalet pastel yn hwyluso’r gwylio, yn enwedig pan yng nghwmni ei chyfarwyddiadau rysáit a phrydau blasus oedd yn edrych yn wych. Pan glywsom fod Heidi yn ymweld â Food 52 yr un pryd a ni, ynghyd ag un o’n hoff gogyddion, Yottam Ottolenghi a’i bartner bwyty Ramael Scully, roeddem yn gwybod bod yn rhaid i ni i fynd yno chwap.

Heidi_Food_52

Mae Food 52 yn gylchgrawn-siop-gwefan ar-lein penigamp, gydag arddull gwych ac yn llawn gwybodaeth. O ryseitiau cyraeddadwy i gyfweliadau gyda chogyddion, anrhegion anarferol (mwclis pretzel pres, unrhyw un?) i gyngor am gynhwysion, mae’n cael ei darllen yn aml yma ym Mhencadlys HM. Wrth gyrraedd pencadlys Food 52 gyda gofod glân a modern â stiwdio cegin, a’r ystafell gyfarfod camgymhariadol a bar diod o dan ei sang, roedd yn amlwg bod hyn yn le i ni. Daeth y cinio o ddau lyfr oedd yn cael eu hyrwyddo – Nopi a Near & Far. Arhosom am y cogyddion o dan sylw wrth borthi ar salad crensiog ffres a chnau sinsir perffaith.

Roedd yn bleser cael sgwrs (byr) gyda Heidi, sydd wedi bod yn defnyddio ein halen am sawl blwyddyn bellach (ac yn garedig, mae wedi sôn amdano yn un o’i llyfrau) a chael ein llyfrau wedi llofnodi ganddi hi, Ottolenghi a Scully. Os ydych angen ysbrydoliaeth bwyd, da ni’n argymell i chi edrych ar Food 52 ac ar blog 101 cookbooks. Os, o ran hynny,  rydych yn chwilio am bryd o fwyd arbennig yn Llundain, ni fydd bwyty Ottolenghi, Nopi, yn siomi.

Delweddau: J Lea-Wilson

 

 

0
Your basket