Ysgwydd Porc Mwg gyda pherlysiau caled
INGREDIENTS
Mae’r dŵr mwg yn rhoi blas arbennig i’r cig. Cinio blasus.
Digon i 4-6
- 1 darn o ysgwydd porc bras sy’n pwyso tua 1.5kg
- 2 winwnsyn bach, croen ymlaen, wedi’u sleisio yn eu hanner
- Dewis hael o berlysiau caled fel saets, teim, rhosmari a bae
- 4 ewin o arlleg, croen arno, wedi’i sleisio yn ei hanner
- 2 lwy fwrdd o Ddŵr Mwg Derw
- Halen Môn Mwg
- Olew olewydd da
- Pupur du ffres
Cynheswch y popty i 220°C
Taenwch yr olew olewydd dros y porc a’i sesno’n hael gyda halen mwg a phupur. Rhowch mewn dysgl bobi ddwfn (dylai’r cig ffitio’n weddol gyfforddus) a’i rostio am 35 munud.Tynnwch o’r popty ac ychwanegwch y winwns, garlleg a pherlysiau at yr hambwrdd a’u llenwi hanner ffordd i fyny gyda dŵr, gan gynnwys dŵr mwg. Gorchuddiwch â ffoil alwminiwm a’i ddychwelyd i’r popty. Trowch y tymheredd i lawr i 150. Parhewch i rostio am 3 awr, gan sicrhau nad yw’r hylif yn berwi sych. Ychwanegwch mwy o ddŵr os oes angen
Dylai’r cig fod yn ddigon tyner i’w dynnu ar wahân gyda fforc, os nad yw, dychwelwch i’r popty am 30 munud arall.Tynnwch y porc allan o’r ddysgl a’i dynnu ar wahân gyda dwy fforc. Gweinwch gyda stwnsh thatws a llysiau gwyrdd wedi’u stemio, gan ddefnyddio’r hylif o’r ddysgl bobi fel saws elfennol ar gyfer y porc.
RYSÁIT: Sam Lomas
DELWEDD: Jess Lea-Wilson