Wythnos Ymwybyddiaeth Halen: pam y dylech ddefnyddio Halen Môn - Halen Môn

Mae wythnos ymwybyddiaeth halen yn gyffredinol ynghylch a rhybuddio pobl am beryglon bwyta gormod o halen. Wrth gwrs, mae hyn yn hynod o bwysig. Fel dywedodd eich mam, mae gormod o unrhyw beth yn ddrwg i chi.

Ond mae 75% o’r halen rydym ni yn y DU yn bwyta eisoes yn y bwyd a brynwn – mewn cig cadw, sawsiau, grawnfwydydd, creision a phrydau parod. Nid Halen Môn yw’r broblem. Bwyta gormod o fwyd wedi prosesu yw’r broblem. Coginiwch o’r dechrau a byddwch yn gwybod yn union be da chi’n rhoi yn eich ceg.

Ymhellach, heb unrhyw halen, byddai’n cyrff yn rhoi’r gorau i weithredu. Mae’r adweithiau cemegol tu mewn i ni angen sodiwm ynghyd â chlorid. Sodiwm yw un o’r ddwy elfen sy’n ffurfio’r halen. Hebddo, byddai cyhyrau yn rhoi’r gorau i weithio, ni fyddai nerfau yn cario negeseuon a byddai bwyd yn parhau i fod heb ei dreulio. Mae ein cyrff yn colli halen trwy chwys, troeth a dagrau bob dydd ac mae’n bwysig rhoi peth yn ôl.

Dyma pam da ni’n credu mai Halen Môn dylech ddefnyddio

  • Mae’r cyfansoddiad halen sy’n gwneud i fyny meinweoedd ein cyrff yn debyg i ddŵr môr, felly mae’n dilyn bod halen môr yn cael ei ystyried yn gyffredinol yn well ar gyfer ein hiechyd na halwynau eraill sydd wedi’u prosesu. Mae Halen Môn yn cadw’r elfennau hybrin naturiol gwerthfawr sy’n aml yn cael eu tynnu allan yn ystod y gwaith o brosesu halwynau bwrdd eraill.
  • Mae ein proses yn unigryw ac wedi cael ei gydnabod yn gyfreithiol fel y cyfryw o dan gyfraith yr UE. Yn 2014, wnaethom ni  ymuno â Siampaen a Ham Parma ymysg eraill ar ôl ennill statws sy’n dynodi Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO) gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r wobr newydd yma yn cydnabod yn gyfreithiol bod gan Halen Môn nodweddion unigryw oherwydd ein lleoliad daearyddol yn ogystal â’r ffordd yr ydym yn cynhyrchu’r halen. Yn aml mae halwynau môr eraill yn cael eu gwneud o heli wedi’i ‘gryfhau’ a gall hefyd cynnwys ychwanegion fel cyfrwng gwrth-crawennu. Mae ein statws PDO yn warant yn erbyn unrhyw fath beth.
  • Mae ein proses wedi ei ardystio’n organig. Yn wahanol i lawer o frandiau eraill, nid ydym yn ychwanegu unrhyw beth cas iddo i’w gwneud i lifo’n rhydd. Mae’n hardd, gwyn llachar yn naturiol.
  • Rydym yn fusnes teuluol sy’n gofalu am yr hyn da ni’n gwneud, y cynhwysion a ddefnyddiwn, a’r bobl ‘da ni’n gweithio ochr yn ochr gyda. Ni ddylid byth diystyru pŵer bobl dda.
  • Mae harddwch ein halen môr wedi ysbrydoli creadigwyr o wneuthurwyr ffilmiau i ddylunwyr gemwaith, ffotograffwyr i arlunwyr. Mae’n edrych yn dda ar blât o fwyd.
  • Mae ein cynnyrch yn cael ei ddefnyddio ledled y byd gan bawb o gogyddion enwog, i gogyddion bob dydd, am ei fod yn blasu’n dda. Mae ganddo gydbwysedd o blas heb unrhyw awgrym o chwerwder. Ac oherwydd bod Halen Môn yn naturiol yn blasu’n gryfach na llawer o halwynau eraill – mae angen defnyddio llai ohono yn eich coginio, wrth gynnal yr un dwyster blas.

Mae’n eithaf syml, mewn gwirionedd.

0
Your basket