Diodydd Nadoligaidd – dwy rysáit - Halen Môn

Diodydd Nadoligaidd – dwy rysáit

by | Rhag 13, 2021

Jin Môrtini Pomgranad a Chlementin

Gan ddefnyddio ein jin distyll halen môr yn y martini hwn, mae hyn yn rhoi dyfnder a blas iddo. Yn oer, yn gryf ac yn lliwgar, dyma’r ffordd i gychwyn parti.

Digon i 2

120ml Jin Môr
1 llwy fwrdd fermwth sych
Sudd a chroen clementin wedi’i blicio
1 llwy fwrdd hadau pomgranad
Ciwbiau rhew, ar gyfer ysgwyd ac oeri

Llenwch ddau wydr martini efo rhew a’u rhoi o’r neilltu i oeri.

Tywalltwch y Jin Môr, y fermwth a’r sudd clementin i gymysgwr coctels a’i lenwi gyda rhew. Ysgwydwch yn dda am funud. Tynnwch y rhew o’r gwydrau martini a rhoi’r hadau pomgranad yn y gwydrau. Codwch gaead y cymysgwr coctels a hidlo’r hylif i’r gwydrau. Yfwch yn syth.

Diod Ffrwythau Lemwn a Sinsir efo Tonig Rhosmari

Diod ffrwythau yw hon wedi’i wneud efo sudd finegr i gael y dyfnder sy’n aml ar goll heb yr alcohol. Er bod y rysáit yn gofyn i chi gynllunio ymlaen llaw, mae’n gwneud digon i chi ei roi i griw a gallwch gadw unrhyw ddiod fydd yn weddill yn yr oergell am hyd at dri mis, a rhoi dŵr pefriog neu donig ar ei ben. Mae’r finegr seidr afal yn rhoi blas sych, nodweddiadol i oedolion, heb unrhyw ôl-effeithiau y diwrnod wedyn.

Digon i 10

Ar gyfer y diod ffrwythau
200g sinsir, wedi gratio’n fras
1 lemon, wedi’i dorri’n gylchoedd tenau 1cm, heb y ddau ben
1/8 llwy de halen môr pur Halen Môn
250g siwgr mân euraidd
250ml finegr seidr afal

Ar gyfer y gweddill
100ml dŵr tonig i bob gwydraid
1 x sbrigyn rhosmari i bob gwydraid

Mewn powlen gymysgu, cyfunwch y sinsir a’r lemwn efo’r halen a’r siwgr. Trowch er mwyn gwasgaru popeth yn gyfartal. Gorchuddiwch efo lliain a’i adael am awr, erbyn hynny bydd y siwgr a’r halen wedi tynnu allan tipyn o’r hylif o’r sinsir a’r lemwn. Tywalltwch y finegr seidr afal, troi i’r siwgr gael toddi, yna gorchuddio eto efo lliain a’i roi yn yr oergell am 24 awr.
Hidlwch yr hylif o’r bowlen drwy liain mwslin i mewn i jwg, neu botel gan ddefnyddio twmffat. Yn dibynnu ar faint sy’n yfed y ddiod ffrwythau, llenwch wydrau 200ml efo rhew, yna tywallt 2 lwy fwrdd o’r cymysgedd diod ffrwythau i bob un. Rhowch ddŵr tonig ar ei ben. Gwasgwch sbrigyn rhosmari yr un rhwng eich cledrau i ryddhau’r olewon aromatig a’i roi yn y gwydrau. Yfwch yn syth.

Gallwch gadw unrhyw gymysgedd sydd dros ben mewn potel wedi’i diheintio yn yr oergell am hyd at dri mis.

0
Your basket