Mae Madeira yn llymeitian addas i ychwanegu at y rysáit truffl siocled Halen Môn hon, gan fod ganddo berthynas â’r môr hefyd. Canrifoedd yn ôl, darganfu morwyr y byddai gwin gwyn o ynys Madeira yn trawsnewid i mewn i win tywyll, cyfoethog ar ôl wythnosau o’r haul yn tywynnu ar y dec a siglo ysgafn y llong ar y tonnau. Ysbrydolodd hyn arddull o win cadarn sydd â blas cymhleth o resins, cnau Ffrengig, coffi a sbeisys, sy’n priodi’n hyfryd gyda’r nodiadau caramel yn y siocled coco uchel. Mae fflochiau cain Halen Môn yn dwysáu’r blasau.

Nodyn rysáit:
Nid oes angen creu golchi llestri ychwanegol trwy doddi’r siocled dros bain marie (fel y mae llawer o ryseitiau’n ei awgrymu), cyn belled â’ch bod yn ofalus peidiwch byth â gadael i’r sosban fynd yn rhy boeth unwaith y bydd y siocled wedi’i ychwanegu. Defnyddiwch wres isel a chymerwch eich amser.

DIGON AR GYFER 15 TRUFFL
200g Siocled Llaeth Green & Black’s
30ml Madeira melys
30ml Dŵr
2g Halen Môn
100g Powdwr coco ar gyfer ysgeintio

Rhowch yr Halen Môn, Madeira a’r dŵr mewn sosban fach a’i gynhesu i jest o dan bwynt mudferwi. Tynnwch o’r gwres. Torrwch y siocled yn ddarnau a’i ychwanegu i’r sosban, gan droi’n barhaus nes yn llyfn. Os ydych chi’n dal i gael darnau siocled heb ei doddi ar ôl munud o droi, rhowch y sosban yn ôl ar y gwres am 10 eiliad cyn ei dynnu, parhewch i droi. Arllwyswch y gymysgedd lyfn i bowlen a gadewch yn yr oergell iddo galedi, o leiaf 6 awr.

Hidlwch y powdr coco i mewn i bowlen fawr a’i neilltuo. Tynnwch y gymysgedd truffl o’r oergell a chan ddefnyddio llwy de cymerwch ychydig o’r cymysgedd a’i rholio eich dwylo cyn ei rhoi i mewn i’r powdwr coco. Rholiwch y trufflau yn y powdr coco nes eu cwmpasu’n llwyr, a’u cadw yn yr oergell nes eu bod yn barod i weini.

I weini, tynnwch y trufflau o’r oergell ac ysgytiwch y powdwr coco oddi arnynt, 3 neu 4 truffl ar y tro. Rhowch ar blât gweini a gadewch iddynt gynhesu ychydig am 20 munud. Mwynhewch!

Brandt Maybury, Cyd-sylfaenydd Tastehead – asiantaeth datblygu cynnyrch ac ymgynghoriaeth bwyd.

 

0
Your basket