Bach, melys a chadarn, mae tatws cynnar Sir Benfro yn arwydd sicr i ni fod yr haf ar ei ffordd. Mae’r tatws yn eithriadol o flasus oherwydd iddynt dyfu mewn pridd cyfoethog Cymreig – ac maen ganddynt Statws Gwarchodedig (yn union fel Halen Môn) i gydnabod eu hansawdd eithriadol. Gallwch eu prynu ar draws y Deyrnas Gyfunol, ond os ydych chi’n cael trafferth yna ceisiwch amrywiaeth arall o datws newydd.
Saig ar gyfer 4
600g tatws Cynnar Sir Benfro, wedi’u sgwrio ond heb blicio
olew olewydd
Halen Môn Pur gyda Seleri
pupur wedi cracio
200g ffa
50g menyn heb halen
Pinsiad o saffrwm
2 lwy de o fwstard
Ychydig o ddail mintys wedi eu golchi
Rhowch sosban fawr o ddŵr hallt i ferwi a chynheswch y popty i 200C. Unwaith bydd y dŵr yn berwi, ychwanegwch y tatws i’r sosban a’u berwi am 15 munud. Tynnwch y tatws gyda llwy dyllog i golandr a chadwch y dŵr yn y sosban tan yn hwyrach.
Gadewch i’r stêm anweddu o’r tatws am funud neu ddwy er mwyn sicrhau iddynt grasu gymaint ag y bo modd yn y popty. Trowch a throswch y tatws mewn hambwrdd rhostio mawr gyda joch o olew olewydd a phinsiad hael o Halen Môn Pur gyda Seleri a phupur du. Gan ddefnyddio cefn llwy bren, gwthiwch bob taten i lawr ar nes iddynt “byrstio”. Cymysgwch a gyda’r olew a rhowch yng nghanol y ffwrn am 25 munud.
Yn y cyfamser, ail ferwch y dŵr tatws ac ychwanegwch y ffa i’r sosban a’u berwi am 3 munud. Draeniwch o dan dŵr oer, ac yna popio’r ffa allan o’u crwyn gwyrdd golau i arddangos y ffa gwyrdd emrallt y tu mewn.
Nesaf, toddwch y menyn mewn padell ffrio fach ac ychwanegwch y saffrwm a’r mwstard. Trowch am 30 eiliad a’i chymryd oddi ar y gwres.
Cyn gynted ag y mae’r tatws yn barod, ychwanegwch at y menyn a’r ffa gan eu troi a throsi. Ychwanegwch y mintys a’u gweini tra’n gynnes.
DELWEDD: Jess Lea-Wilson
RYSÁIT: Anna Shepherd