Tatws Rhost Lemwn wedi Crimpio - Halen Môn

Tatws Rhost Lemwn wedi Crimpio

by | Tach 18, 2021

INGREDIENTS

Yn gweini 4

Yn gweini 4-6 fel pryd ychwanegol

1kg o datws blodiog, megis King Edward, wedi’u plicio

    • 60ml o olew coginio cyffredin, megis olew llysiau neu flodau’r haul

    • 1 lemwn, wedi’i blicio a’i dorri’n hanner

    • 5-6 sbrigyn o deim

    • Halen môr fflochiog Halen Môn, i orffen

    • Pupur du

Mae lemwn a thatws yn mynd yn dda iawn gyda’i gilydd. Yn y rysáit hon, bydd y lemwn yn carameleiddio – bron yn troi’n jam – wrth iddo goginio gyda’r tatws fydd yn crimpio yn y popty.

Perffaith ar gyfer unrhyw ginio Sul rhost, neu bryd o fwyd i ddathlu.


Torrwch y tatws yn fras i ddarnau 3-4cm a’u symud i bowlen fawr o ddŵr oer, cyn gadael iddynt socian am 30 munud. Bydd hyn yn gwaredu’r startsh yn y tatws ac yn eu helpu i grimpio wrth goginio.

Cynheswch y popty i 220°C ymlaen llaw.

Unwaith y mae’r tatws wedi socian, codwch nhw o’r dŵr i mewn i golandr gyda dwylo glân (cofiwch beidio â’u tywallt nhw i mewn i’r colandr, oherwydd bydd hyn yn eu gorchuddio â startsh eto). Gadewch iddynt sychu am 10 munud.   

Rhowch yr olew mewn hambwrdd rhostio mawr (25x35cm) a’i roi ar silff ganol y popty i gynhesu am 5 munud. Wedi hyn, tynnwch yr hambwrdd allan o’r popty a threfnu’r tatws mewn haen wastad. Byddwch yn ofalus, oherwydd bydd yr olew’n tasgu. Defnyddiwch sbatwla i droi’r tatws yn yr olew fel bod pob darn o datws wedi’i orchuddio’n llwyr. Ysgwydwch yr hambwrdd fel nad yw’r tatws ar ben ei gilydd, a rhowch yr hambwrdd yn ôl ar silff ganol y popty. 

Coginiwch y tatws am 30 munud, gan eu troi nhw unwaith ar ôl 15 munud, yna tynnwch yr hambwrdd o’r popty ac ychwanegu croen y lemwn, yr haneri lemwn a hanner y teim. Rhowch yr hambwrdd yn ôl yn y popty am 15-20 munud, hyd nes i’r tatws droi’n lliw euraidd a chrimpio.

Tynnwch y tatws allan o’r popty a rhowch lond llaw o halen fflochiog a phupur du arnynt. Rhowch y tatws a’r croen lemwn mewn powlen weini fawr, a gwasgu hanner y lemwn wedi’i rostio dros y tatws. Ychwanegwch y teim sy’n weddill a’i weini gyda chinio rhost.   

0
Your basket