Perffaith efo pysgod gwyn neu yn lle salad tatws yn llawn mayonnaise ar gyfer barbeciw. Mae’r picls sydyn efo halen seleri yn ychwanegu amrywiad a crens i’r saig hynod o dlws yma.

DIGON I 6

500g o datws blodiog
3 bwlb o ffenigl
3 lemon
½ nionyn coch, wedi’i phlicio
2 llwy fwrdd halen seleri
1 llwy fwrdd o siwgr
75ml finegr gwin gwyn neu finegr seidr

Cynheswch y popty i 200°C o flaen llaw.

Sgwriwch y tatws, ond gadewch y crwyn arnynt a’u torri i ddarnau cyfartal, tua 6 os ydyn nhw’n fawr, neu chwarteri os ydyn nhw’n fach. Rhowch y tatws mewn sosban o ddŵr hallt oer a’i godi i’r berw. Gadewch iddynt ferwi am ryw 10 munud neu eu bod yn dechrau meddalu. Draeniwch nhw mewn hidl a’u hysgwyd er mwyn eu blerio ychydig.

Yn y cyfamser, ewch ati i baratoi’r picls. Gan ddefnyddio cyllell miniog iawn, torrwch yr hanner nionyn i sleisiau hir, tenau. Gwahanwch y darnau mewn powlen a tollti hanner y finegr, sudd hanner lemon, 2 lwy fwrdd o’r halen seleri a hanner y siwgr drostynt.

Cymysgwch efo’ch dwylo a’i osod i un ochr. Pigwch y ffrondau mwyaf gwyrdd o dop y ffenigl a’u gadw i un ochr, taflwch unrhyw rai sydd wedi dechrau colli eu lliw. Torrwch dopiau caled y bylbiau ffenigl i ffwrdd a’u torri i pedwar darn ar eu hyd.

Cymerwch dau o’r darnau ffenigl a’u torri i sleisiau hir, tenau, yn debyg i’r nionyn, a’u cymysgu efo gweddill yr halen, siwgr, finegr a sudd yr hanner arall o’r lemon. Cymysgwch yn dda efo’ch dwylo mewn bowlen arall a’u gosod i un ochr efo’r picl nionyn coch. Cymerwch dwy ddysgl rhostio a rhoi’r tatws i mewn i un efo digon o olew olewydd ac ysgeintiad da o halen seleri. Rhowch yng nghanol y popty.

Yn y ddysgl arall, cymysgwch gweddill y darnau ffenigl efo mwy o olew olewydd, haneri y ddau lemon arall a phinsiad o halen seleri, gorchuddiwch efo ffoil a’i osod yng ngwaelod y popty. Rhostiwch am 35 munud. Unwaith fod eich amserydd wedi canu, tynnwch y ffoil o’r ffenigl a’i gymysgu efo’r tatws a lemonau yn y ddysgl. Rhostiwch am 10 munud ychwanegol. I weini, trefnwch y ffenigl, tatws a lemonau ar blât. Draeniwch yr hylif o’r picls a’u gwasgu’n dda i gael gwared ag unrhyw flas sur o’r finegr. Ysgeintiwch yn wastad dros y llysiau ag ychwanegu’r ffrondiau ffenigl ar ben y cwbl.

Rysáit gan Anna Shepherd

Llun gan Jess Lea-Wilson

0
Your basket