Mae’r darten Dydd Gŵyl Dewi arbennig yma yn dathlu un o symbolau cenedlaethol arbennig Cymru: y genhinen. Gwneir gyda chennin wedi coginio’n araf gyda Halen Môn Seleri sy’n ei wneud yn rhyfeddol o sawrus. Cinio canol wythnos hyfryd neu ginio gwanwyn perffaith y tu allan os yw’r tywydd yn caniatáu.
Digon i 6
5 cenhinen fawr, wedi’u golchi a’u sleisio’n fân
1/2 bwlb ffenigl, wedi’i sleisio’n fân
1 ewin garlleg, wedi’i dorri’n fân
dail 2 sbrigyn teim
croen lemwn
ddalen o grwst pwff wedi’i rolio’n barod
30ml hufen dwbl
25g caws Parma, wedi’i gratio
50g cnau cyll, wedi’u rhostio a’u torri’n fras
nobyn mawr o fenyn
1 wy, wedi’i guro
2 pinsiad mawr o Halen Môn gyda Hadau Seleri
Cynheswch y popty i 200C.
Toddwch y menyn mewn padell ffrio ac ychwanegwch y cennin, ffenigl, garlleg a theim. Taenwch hanner yr halen drosto a’i droi gyda llwy bren. Gorchuddiwch y badell am tua 3 munud, fel bod y cennin yn dechrau chwysu, yna trowch y gwres i lawr a’i adael i goginio am tua 20 munud, gan ei droi’n achlysurol.
Yn y cyfamser, leiniwch tun pobi gyda phapur gwrthsaim a gosodwch y daflen crwst pwff arno. Sgoriwch ar y pedair ochr, tua 2cm i mewn o’r ymyl, heb dorri hyd at waelod y crwst. Priciwch y crwst i gyd gyda fforc a’u gosod yng nghanol y popty. Pobwch am tua 10 munud, neu nes iddo ymchwyddo a throi’n euraidd. Tynnwch o’r popty i oeri.
Unwaith y bydd y cennin yn hollol feddal, ychwanegwch y croen lemwn, hanner y caws Parma a hufen i’r badell a throwch y gwres i fyny a’i gadael i ffrwtian am ychydig o funudau. Rhowch y cymysgedd ar y crwst pwff y tu mewn i’r ymylon a’i wastadu ac ysgeintiwch weddill y caws Parma, halen a’r cnau cyll drosto.
Gan ddefnyddio brwsh crwst, gorchuddiwch ochrau crwst gyda’r cymysgedd wyau a phobwch y darten yn y popty am 5-7 munud, neu nes bod pen y cennin yn dechrau troi’n euraidd.
RYSÁIT: Anna Shepherd
DELWEDD: Jess Lea-Wilson