Arloesedd, ymrwymiad a chymuned – mae syrcas enwog NoFit State yn cynrychioli cymaint o bethau gwych Cymru, a ‘da ni’n hoffi meddwl bod Halen Môn yn gwneud yr un peth. Er efallai nad oedd y cydweithio yn ddisgwyliedig, mae gennym lawer yn gyffredin gyda’r cwmni syrcas llwyddiannus, deinamig sy’n cynrychioli Cymru ledled y byd, ac roeddem wrth ein bodd i fod yn halltu eu popcorn wrth iddynt gymryd eu sioe trawiadol, ‘Bianco’, i Efrog Newydd.NoFit_State_2

Drwy gydol mis Mai, roedd y cwmni wedi ymgartrefu yn uniongyrchol o dan Pont Brooklyn, Efrog Newydd. Da ni’n siarad o brofiad wrth ddweud bod y sioe yn hollol fythgofiadwy. Fel dywed NoFit State:
‘Mae syrcas cyfoes wedi gwreiddio yn y gymuned deithiol sydd yn troi i fyny, codi pabell, ennyn cynulleidfa, ac yna gadael gyda glaswellt gwastad fel yr unig atgof i ddangos eu bod erioed yno. Y syrcas yw’r dieithriaid sy’n byw yn ein plith – ac os ydym yn rhedeg i ffwrdd i ymuno â nhw, rydym yn taflu ein swildod, ein confensiynau, a rheolau cymdeithas sefydlog i ffwrdd’.
No_FIt_State

Halen Môn eisoes yn cael ei ddefnyddio gan gogyddion, cynhyrchwyr a chariadon  bwyd ar hyd a lled America – o fwyty enwog Dan Barber Blue Hills yn Ninas Efrog Newydd i unigolyn sy’n gwneud caws artisan yn Texas, ond dyma’r tro cyntaf i ni erioed halltu byrbrydau syrcas o’r ansawdd uchaf yr ochr arall i’r Iwerydd.
Os ydych yn awyddus i weld  syrcas NoFit State ychydig yn nes at adref, byddant yn perfformio’r sioe newydd yn Pontio Bangor, ar Orffennaf 10fed.

0
YOUR BASKET
Your basket is emptyRETURN TO SHOP
Calculate Shipping