Mae’r rysáit hon yn dod o’r llyfr gwych ‘Do Preserve’, sy’n llawn dop gyda chordialau, picls, jams a siytni. Yn ogystal â ryseitiau sy’n gweithio, mae’n llawn o luniau sydd yr un mor flasus â’r bwyd ei hun. Mae’r gan y tri awdur, Jen, Mimi a Anja, ddealltwriaeth ragorol o fwyd rhyngddynt, yn cwmpasu popeth o ffermio a fforio i arlwyo a choginio.
Daw’r rysáit stoc wych gan Anja. Mae hi wrth ei bodd yn bwyta Halen Môn gyda orennau ffres ac olew olewydd, ac mae hi’n postio lluniau o’i chegin hardd ar Instagram yn ddyddiol.
***
Y gymysgedd hallt hon yw fy ffrind gorau yn y gegin. Meddyliwch amdano fel ciwb stoc – gwych ar gyfer cawl sydyn, gwych mewn stiwiau, cawliau a sawsiau. Cefais fy magu gyda mam yn ei ychwanegu at gymaint o bethau, a chafodd mam ei magu gyda’i mam ei ddefnyddio, ac felly y bu am genedlaethau.

Y fersiwn hynaf sydd gennyf yw rysáit fy hen-nain; ddefnyddiodd gwreiddiau persli, sy’n rhoi blas priddlyd gwych. Dwi’n sylweddoli nad oes gan bawb ardd sy’n llawn o bersli – felly os ydych yn ddigon ffodus i gael y gwreiddiau, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu defnyddio; os na, nid yw’n ddiwedd y byd. Rwy’n ychwanegu ychydig o ffenigl i fy rysáit y dyddiau hyn gan fy mod i’n hoffi’r blas anis cynnes mae’n ei roi.
Fennel

I wneud 1.5 litr
300g cennin, wedi golchi a’u tocio
100g persli
250g moron
250g seleriac (gyda dail)
100g ffenigl (opsiynol – neu ddefnyddio 100g o foron neu seleriac)
400g halen

Rhowch yr holl lysiau mewn prosesydd bwyd a’u cymysgu i bast gronynnog. Rhowch mewn powlen a chymysgwch yr halen. Paciwch yn dynn i mewn i jariau wedi eu sterileiddio a seliwch.
Storiwch mewn lle oer, tywyll a bydd yn cadw yn dda am hyd at flwyddyn. Unwaith mae wedi agor, storiwch yn yr oergell a bydd yn cadw am chwe mis arall. Bydd y cymysgedd llysiau yn newid lliw yr hiraf mae’n cael ei gadw, ond nid yw hyn yn cael unrhyw effaith ar y blas ac mae’n dal yn berffaith iawn i’w defnyddio.

Dyfyniad o Do Preserve: Gwnewch eich jamiau hun, siytni, picls a chordialau gan Anja Dunk, Jen Goss, Mimi Beaven. Cyhoeddwyd gan Do Books, 5 Mai 2016. PB £ 8.99, E-lyfr £5.49

Any orders placed between 20th Dec – 4th Jan will be despatched on 4th Jan 2021. Read More.

beach

Stay in touch

We put a lot of time and care into our newsletters, and want them to be something you look forward to opening rather than deleting.

Expect original recipes from brilliant chefs, links to interesting and delicious things, and of course, plenty of beautiful pictures of the Salty Isle. It's a flicker of Ynys Môn in your inbox, around once a month.

We know you get a lot of emails and we promise not to go overboard. You can unsubscribe at any time.

0
Your basket