Smash jin basil a leim
INGREDIENTS
Digon i 1
10-12 o ddail basil
60ml Jin Môr
30ml o sudd leim
½ llwy de agafe (gallwch roi mwy neu lai)
Rhew
+ leim / basil i addurno
Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi gyda’r jin smash blasus yma sy’n defnyddio Jin Môr. Basil pupraidd, leim ffres, wedi’u gweini dros rew i wneud yr aperitif perffaith. Coctel bywiog wrth i ni nesáu at y gwanwyn.
.
Oerwch eich gwydr yn y rhewgell.
Ysgwydwch y dail basil mewn cwpan ysgwyd coctels neu defnyddiwch lwy bren neu hyd yn oed pestl a morter. Po fwyaf y byddwch yn ei ysgwyd, y mwyaf o flas gewch chi o’r basil. Ychwanegwch y jin, y leim a’r rhew a’i ysgwyd yn dda. Blaswch ac ychwanegwch yr agafe, ½ llwy de neu fwy. Ysgwydwch eto. Ychwanegwch rew i’r gwydr oer. Hidlwch y coctel i’r gwydr. Addurnwch â deilen basil fach a sleisen o leim.