Sglodion Popty Perffaith - Halen Môn

Sglodion Popty Perffaith

by | Awst 16, 2021

INGREDIENTS

 

 

  • 1kg o datws blodiog, megis Maris Piper neu King Edward

  • 60ml o olew llysiau

  • 5 sbrig rhosmari, gyda’r dail wedi’u torri’n fân

  • 1 llwy de o halen môr fflochiog

  • Halen Môn

  • Pupur du

Y gyfrinach i gael sglodion popty perffaith yw gwneud rhywbeth yn groes i’r arfer a pheidio ag ychwanegu halen a phupur tan ar ôl coginio. Mae hyn gan fod halen yn tynnu’r dŵr allan. Mewn prydau eraill mae hyn yn gwella blas pob cynhwysyn, ond gyda sglodion, gall wneud iddynt droi’n soeglyd wrth goginio.

Rydym yn mwynhau blas coediog rhosmari ar ein sglodion ni, ond mae croeso i chi arbrofi gyda’ch hoff berlysiau gaeafol a sbeisys sawrus.

Llenwch bowlen fawr gyda dŵr oer. Torrwch un sleis denau oddi ar ochr y daten, fel bod yr ymyl yn fflat ar y bwrdd torri. Torrwch y daten i sleisiau 1cm (does dim angen eu plicio), yna torrwch bob sleis i faint sglodion mawr siop sglodion. Rhowch y sglodion yn y bowlen ddŵr. Unwaith y mae’r holl datws wedi’u paratoi, rhowch nhw i un ochr a gadewch iddynt socian am o leiaf 45 munud i awr i waredu’r starts. Bydd hyn yn eu helpu i grimpio wrth goginio.

Cynheswch y popty i 220°C ymlaen llaw.

Codwch y sglodion i golandr gyda dwylo glân er mwyn gwaredu’r dŵr, yna trefnwch nhw mewn haen ar dywel cegin glân. Sychwch nhw’n ofalus.

Tywallltwch ¾ yr olew i ddau hambwrdd rhostio mawr a glân, fel bod yr olew’n gorchuddio gwaelod yr hambyrddau o ryw 2mm. Rhowch yr hambyrddau yn y popty am 5 munud. Rhowch y tatws sych mewn powlen fawr a thywalltwch yr olew sy’n weddill. Ysgwydwch y bowlen er mwyn gorchuddio’r holl sglodion yn yr olew.

Tynnwch yr hambyrddau o’r popty a rhannwch y sglodion rhyngddyn nhw fel nad yw’r sglodion ar ben ei gilydd. Rhostiwch nhw yn y popty am 40-45 munud, gan agor y popty pob 10 munud i waredu’r stêm ac ysgwyd y sglodion. Newidiwch leoliad yr hambyrddau hanner ffordd drwy’r amser coginio os yw un ohonynt mewn man poethach yn y popty.

Unwaith y mae’r tatws wedi troi’n lliw aur ac wedi crimpio, tynnwch nhw allan o’r popty. Rhowch ychydig o ddarnau o bapur cegin ar waelod powlen gymysgu fawr. Gan ddefnyddio sbatwla â thyllau, codwch y sglodion allan o’r hambwrdd ac i mewn i’r bowlen gyda’r papur. Bydd y papur cegin yn gwaredu unrhyw olew sy’n weddill. Tynnwch y papur cegin allan o’r bowlen a’i waredu. Yna, ychwanegwch yr halen, y rhosmari a llwyth o bupur du cyn ysgwyd y bowlen i ddod â phopeth at ei gilydd.

Gweinwch y sglodion pan maent yn dal i fod yn boeth.

 

IMAGE + RECIPE: Anna Shepherd

 

0
Your basket