Salad Dail Chwerw + Llaeth Enwyn
Gweinwch y salad hwn ar gyfer paletau gaeaf sydd wedi palu pan mae’r letys chwerw cain ar eu gorau. Ceisiwch gael hyd i letys castelfranco (yn y llun) os y gallwch – mae ganddo flas llai dwys na radicchio porffor. Ond bydd unrhyw letys chwerw yn gwneud y gwaith yn hyfryd.
2 ben bach o letys chwerw (megis radicchio, castelfranco neu ysgellog)
75ml llaeth enwyn
Sudd ½ lemwn
2 llwy bwrdd o olew olewydd da
bwnsiad o gennin syfi, wedi’u torri’n fân
50g o gnau cyll, wedi’u tostio a’u torri’n fras
Halen Môn
Pupur du
Golchwch a sychwch y letys yn dda a’i roi mewn powlen gymysgu fawr.
Cymysgwch y llaeth enwyn, lemwn, olew olewydd a’r cennin syfi gyda’i gilydd mewn jwg a’i blasuso yn dda gyda halen a phupur.
Trowch y dresin trwy’r dail a thaenwch y cnau cyll drosto. Gorffennwch gyda phinsiad o grisialau Halen Môn.
Rysáit: Anna Shepherd
Llun: Jess Lea-Wilson